Mae rhwydwaith sy'n mynd ati i helpu menywod Cymru i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y sector technoleg wedi cael ei lansio mewn digwyddiad yng Nghaerdydd.

“All Cymru ddim adeiladu dyfodol digidol ar hanner y doniau sydd ar gael.” Neges y trefnydd wrth lansio rhwydwaith i gefnogi menywod ym maes technoleg. Mae rhwydwaith sy'n mynd ati i helpu menywod Cymru i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn y sector technoleg wedi cael ei lansio mewn digwyddiad yng Nghaerdydd. 

Gemma Hallet - MiFuture

Cynllun mentora newydd yw Menywod Digidol Cymru, a bydd yn rhoi cyfle i fenywod sy'n gweithio yn y sector technoleg yng Nghymru gael gafael ar gyngor a chymorth gan gydweithwyr ac unigolion dylanwadol yn y diwydiant.

Mae’r cynllun yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim ac ar agor i fenywod sy'n gweithio yn y sector technoleg neu’r sector digidol. Cafodd ei greu yn sgil llawer o waith ymchwil yn y diwydiant gan sefydliad twf digidol yr Arloesfa (y tîm sydd wrth wraidd cynhadledd dechnoleg flynyddol Digital Festival) a’r prif noddwr, sef GoCompare.

Mae’r mentoriaid sy'n rhan o’r cynllun yn cynnwys enwau blaenllaw yn y byd digidol, fel Gemma Hallett, Sylfaenydd miFuture, ac un o’r Prif Fenywod ym Maes Technoleg yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn nigwyddiad Digital Festival fis Mai y llynedd.  Yn ymuno â hi mae Caroline Thompson yn Creu Sbarc, a Natalie Jakomis, Cyfarwyddwr Data Grŵp GoCompare, a enwir yn rhestr 2019 DataIQ o’r 100 ymarferydd mwyaf dylanwadol yn y byd data a dadansoddeg yn y DU.

Dywedodd Gemma Hallett, Sylfaenydd y cwmni ap gyrfaoedd miFuture: 

“Mae mentoriaid wedi bod yn amhrisiadwy ar bob cam o fy ngyrfa, gan gynnwys pan oeddwn i'n chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru, yn athrawes ac yna’n cychwyn ar siwrnai entrepreneuriaeth yn y byd technoleg.   Wrth i chi ddatblygu ac aeddfedu yn eich gyrfa neu fel cwmni, mae’n hollbwysig bod gennych chi fentoriaid ar yr un lefel â chi, a'ch bod yn creu cysylltiadau â phobl a fydd yn gallu rhannu gwahanol syniadau a phrofiadau.  Mae Menywod Digidol Cymru yn gyfle gwych i fenywod yn y sector technoleg wneud hynny.”

Bydd Menywod Digidol Cymru yn cynnal cyfleoedd misol i gyfarfod dros frecwast mewn gwahanol ganolfannau ar draws Cymru. Bydd gan bob digwyddiad themâu penodol, fel cyllid, talent ac arweinyddiaeth, a byddant yn rhoi cyfle i’r rheini sy’n bresennol feithrin cysylltiadau gydag unigolion sy’n gweithio o fewn y diwydiant, yn ogystal â thrafod yr heriau y mae menywod yn eu hwynebu yn y sector technoleg, a dod o hyd i ffyrdd mwy penodol o’u cefnogi. 

Dywedodd Jo Golley, Pennaeth Ymgysylltu’r Arloesfa: “Y realiti yw, mae hi'n 2019, ac mae’n drist iawn bod hanner y boblogaeth sy'n gweithio yng Nghymru yn wynebu rhwystrau dyddiol sy'n eu hatal rhag gwireddu eu potensial yn eu gyrfa.  Mae’n deg awgrymu bod hyn yn waeth yn y sector technoleg, sy'n cynnwys mwy o ddynion na menywod.  Mae gwthio hanner y gronfa dalent i un ochr yn hurt o safbwynt economaidd.  Menywod Digidol Cymru yw ein ffordd ni o weithio ochr yn ochr ag arweinwyr yn y sector i newid hyn, o'r tu blaen.”

Dywedodd Hannah Fry, Partner Busnes Caffael Talent GoCompare, noddwr Menywod Digidol Cymru: “Nid yw menywod yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn swyddi sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Rydyn ni'n gweithio’n galed yn GoCompare i fynd i’r afael â hyn. Rydyn ni wedi gweld twf sylweddol yn yr amrywiaeth ac yn y talentau a welir yn ein timau technoleg. Mae’n bleser gennym gydweithio â’r Arloesfa ar gynllun Menywod Digidol Cymru; rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig dathlu llwyddiannau menywod sy'n gweithio yn y diwydiant Technoleg, a helpu i feithrin talent sy’n ymddangos neu'n datblygu yn y maes hwn.”

Er mai dim ond menywod sy'n gallu manteisio ar gynllun mentora Menywod Digidol Cymru, mae croeso i unrhyw un sydd â swydd neu ddiddordeb yn y sector technoleg yng Nghymru ddod i’r digwyddiadau, beth bynnag fo’u rhyw, eu hoedran neu’u cefndir.  Anogir dynion sy'n gweithio yn y byd technoleg i gofrestru i fod yn bresennol ac i gymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch beth y gellir ei wneud i hybu amrywiaeth o ran rhywedd yn y sector. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.innovationpoint.uk/digital-womens