Entrepreneuriaid yn pocedu £100k o fuddsoddiad ecwiti yn nigwyddiad Pitch It Cymru

Daeth cynulleidfa o dros 120 o westeion i’r digwyddiad o bob un o bum grŵp o randdeiliaid CreuSbarc – sef academia, cyfalaf risg, corfforaethau, llywodraeth ac entrepreneuriaid – i gefnogi, i rannu arbenigedd amhrisiadwy ym maes busnes ac i amlygu pa mor bwysig yw creu ecosystem entrepreneuraidd yng Nghymru sy’n weladwy, yn syml ac wedi'i chysylltu.

Pitch It Wales - featuring Inspire Wales, BeTheSpark and Cardiff Met University

Mewn partneriaeth â CreuSbarc ac Ysbrydoli Cymru, cynhaliwyd Pitch It ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar Gampws Llandaf yng Nghaerdydd, ddydd Mercher 17 Hydref.

“Lluniwyd Pitch It Cymru i wneud y tirlun buddsoddi yn fwy hygyrch i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru. Mae entrepreneuriaeth seiliedig ar arloesi yn hollbwysig i'r gronfa ac rydym yn credu ei bod yn bwysig iawn cefnogi entrepreneuriaid Cymru, gan mai nhw sy’n creu cyfoeth yn ein heconomi.

Roedd hwn yn gyfle unigryw i’n panel ni helpu Busnesau Bach a Chanolig i gynyddu twf eu busnesau yng Nghymru drwy ddarparu buddsoddiad ecwiti uniongyrchol, yn ogystal â sgiliau ac arbenigedd.

Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn y cyntaf o lawer wrth i ni barhau i chwarae ein rhan a meithrin gweledigaeth BeTheSpark o greu ecosystem fwy gweladwy, syml a chysylltiedig yng Nghymru” meddai Matt Wakerley, Rheolwr Cronfa, Ysbrydoli Cymru.

Rhoddodd y digwyddiad unigryw hwn gyfle i chwech o entrepreneuriaid mwyaf arloesol Cymru gyflwyno eu busnesau yn fyw i banel o feirniaid uchel eu parch a oedd yn cynnwys buddsoddwyr o gonsortiwm Ysbrydoli Cymru.

Ar y panel beirniadu roedd Hayley Parsons, Ashley Cooper, Simon Powell, Huw Morgan, Matt Wakerley, Roger Gambrini, Miles Morgan, Jon Baldwin a Steve Dalton.

Gan sôn am y digwyddiad, dywedodd Hayley Parsons:

“Llongyfarchiadau i'r chwe busnes a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Pitch It Cymru. Gwelodd y panel safon uchel o gyflwyno synmiadau a doniau entrepreneuraidd yn ystod y digwyddiad. Roedd cymryd rhan yn gyfle gwych i ddangos fy mrwdfrydedd dros entrepreneuriaeth a buddsoddiad yn ecosystem entrepreneuraidd Cymru.

Roedd 'Pitch it’ nid yn unig yn werthfawr i'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, roedd hefyd yn rhoi dealltwriaeth dda i'r gynulleidfa o brosesau gwaith a meddwl rhwydwaith fywiog o fuddsoddwyr.

Rwy'n edrych ymlaen at arsylwi a chwarae rhan weithredol yn nhwf y busnesau bach a chanolig a sicrhaodd fuddsoddiad ecwiti yn ystod y digwyddiad”

Cytunodd y buddsoddwyr a ddwy fargen yn ystod y digwyddiad a oedd yn werth cyfanswm o £100,000.   

Llwyddodd Hannah Saunders, Sefydlydd a Chyfarwyddwr Toddle i sicrhau £50,000 o'r swm gan y panel, gan roi iddi hi’r cyfalaf roedd hi ei angen i gyflymu twf ei busnes.

Rhoddodd Daniel Shepherd, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr CanDo Laundry wefr i'r panel gyda'i weledigaeth i ehangu ac ychwanegu rhagor o beiriannau at ei fusnes ffyniannus. Llwyddodd Dan i sicrhau gwerth £50,000 o fuddsoddiad ecwiti.

Mynegodd y panel ddiddordeb mawr yn Disberse a Health & Her ac maen nhw wedi trefnu cyfarfod â Ben Joakim a Kate Bache ar wahân ar ôl y digwyddiad.

Er na lwyddodd James Bryan o Clipr i sicrhau buddsoddiad ecwiti gan y panel, mae Simon Powell wedi cytuno i dreulio amser gyda James i'w fentora a chynnig ei arbenigedd. 

Mae'r panel wedi gwahodd Four Minutes i ddod yn ôl atyn nhw unwaith y bydd eu busnes wedi datblygu ymhellach.

Dywedodd Steve Aicheler, Rheolwr Ymgysylltu Entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd:

“Mae Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn ymfalchïo yn ei henw da am gefnogi a gweithio gyda busnesau Cymru.

Mae ein Canolfan Entrepreneuriaeth yn hyrwyddo amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrosiectau drwy gydol y flwyddyn i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr i ddilyn eu dyheadau busnes.

Mae cynnal Pitch It wedi bod yn gyfle gwych i'n myfyrwyr - gan eu galluogi i ddatblygu sgiliau busnes allweddol a chysylltu â modelau rôl gwych.

Rydym yn falch iawn o gefnogi'r digwyddiad gwych hwn ac rydym bob amser yn ceisio datblygu partneriaethau tebyg gyda busnesau, buddsoddwyr a'r rhanddeiliaid eraill sy'n rhan o ecosystem entrepreneuraidd Cymru.”