Cronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru

Enw yw’r Economi Sylfaenol ar y gweithgareddau busnes hynny rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd. Mae gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthu ar y stryd fawr i gyd yn enghreifftiau o’r economi sylfaenol.  

WG Economy Fund

Mae Cronfa Her Llywodraeth Cymru i’r Economi Sylfaenol yn cynnig hyd at £100,000 o arian i helpu sefydliadau a busnesau sy’n weithredol yn yr economi sylfaenol i feddwl am ffyrdd arloesol o weithio, a’u rhoi ar waith. Dylai’r ffyrdd hynny o weithio helpu i godi proffil yr economi sylfaenol ac ysgogi trafodaeth am yr hyn sy’n gweithio, a dysgu gwersi o hynny.

 

Pwy all wneud cais?

Mae unrhyw sefydliad cyhoeddus, preifat neu drydydd sector, sy’n gallu dangos ei fod yn gweithredu yn yr economi sylfaenol mewn ffordd sydd o fudd i Gymru, yn gymwys i wneud cais i’r gronfa hon, fodd bynnag, dylai’r amodau canlynol fod yn berthnasol:  

  • rhaid i brosiectau fod wedi’u lleoli yng Nghymru (gall sefydliadau o’r tu allan i Gymru ymgeisio ond rhaid i’r gweithgarwch a’r budd fod yng Nghymru)
  • rhaid iddo fod yn weithgaredd / prosiect newydd yng Nghymru, ni ellir defnyddio’r cyllid i gyllido prosiectau sydd ar y gweill              
  • rhaid i’r prosiectau fod o fudd i’r Economi sylfaenol yng Nghymru 

Bydd gweinyddwyr y gronfa yn cynnal cymorthfeydd i drafod syniadau am brosiectau a byddant yn darparu rhagor o wybodaeth am y blaenoriaethau a’r meini prawf ar gyfer y gronfa. Gweler isod y dyddiadau ar gyfer Cymorthfeydd Cronfa Her yr Economi Sylfaenol:-

  • 3 Mehefin – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Caerfyrddin - Adeiladau'r Llywodraeth, Heol Picton, Caerfyrddin SA31 3BT
  • 3 Mehefin – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno – Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno LL31 9RZ
  • 4 Mehefin – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Merthyr Tudful - Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful CF48 1UZ
  • 6 Mehefin – Swyddfa Llywodraeth Cymru y Drenewydd – Tŷ Ladywell, y Drenewydd SY16 1JB

I drefnu slot 30 munud, ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

 

Y dyddiad cau i geisiadau yw 12 Gorffennaf 2019.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Her yr Economi Sylfaenol, cysylltwch â Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu ewch i’n tudalen Cysylltwch â ni

Mae nodyn cryno ar gael yma.