CreuSbarc ar waith yng Ngŵyl Digital ’18

Cafodd Gŵyl Digital eleni ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, lle cafwyd dau ddiwrnod penigamp o arddangos rhai o'r prif fusnesau ym maes technoleg yng Nghymru, yn ogystal â siaradwyr o'r radd flaenaf, gweithdai, byrddau crwn, cystadleuaeth cyflwyno, lansio cynnyrch yn fyw a digon o gyfleoedd i rwydweithio gydag unigolion o’r un anian â chi.

BeTheSpark Zone Digital Festival 2018

Yng Ngŵyl Digital, roedd gan CreuSbarc ei ardal arbennig ei hun, a oedd yn canolbwyntio ar entrepreneuriaeth ledled Cymru. Yn ystod y ddau ddiwrnod, fe wnaethom benderfynu arddangos dwy thema: Cymorth Ariannol a Chefnogaeth i Entrepreneuriaid ledled Cymru, a Mentora a Chyflwyno.

Ein gweledigaeth oedd creu ardal lle gallai pobl ddod heibio i gael cyngor o lygad y ffynnon gan bobl a sefydliadau o bob cwr o Gymru sy’n cefnogi entrepreneuriaeth seiliedig ar arloesi. Fe wnaethom groesawu gwesteion o Ymddiriedolaeth y Tywysog, NatWest Business, Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru ac AberInnovation yn ystod y digwyddiad deuddydd.

Mae entrepreneuriaid yn ganolog i bopeth a wnawn – fe benderfynodd CreuSbarc roi lle yn eu hardal i fusnesau newydd ac arloesol ym maes technoleg o bob cwr o Gymru er mwyn rhoi cyfle iddynt arddangos eu busnesau. Roedd yr entrepreneuriaid hyn yn cynnwys:

TreckinHerd - Mae TrekinHerd yn ap rhwydweithio cymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer heicwyr ac anturiaethwyr awyr agored. 

MiFuture – Ap sy’n cysylltu Cenhedlaeth Z â chyfleoedd gyrfa yw MiFuture. Maent yn credu y dylai pob person ifanc gael mynediad at gyfleoedd gyrfa mewn fformat sy’n eu grymuso a’u cefnogi mewn oes ddigidol.

HutSix – Hyfforddiant i hybu ymwybyddiaeth o ddiogelwch sy’n amddiffyn eich cwmni drwy gynnal ymgyrch fesuradwy a phwrpasol yn y cwmwl.

Signum Health - Llwyfan MedTech yn y cwmwl sy’n cysylltu defnyddwyr yn uniongyrchol â’r arbenigwyr iechyd neu’r gwasanaeth sydd eu hangen arnynt, gan eu galluogi i gael cymorth yn gyflym a chael gwared â’r angen am apwyntiadau diangen â meddygon teulu.

Seinyddion Gwedd - Antur newydd ym maes sain gynaliadwy wedi’i chreu â llaw: seinyddion crefftus ar gyfer dyfodol atgynhyrchu cerddoriaeth.

Ouro Solutions - Cwmni datblygu meddalwedd sy’n gwneud mwy yw Ouro Solutions. Ei nod yw darparu cynnyrch a gwasanaethau sy’n newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau, boed hynny’n golygu gwneud rhywbeth yn fwy effeithlon neu rywbeth newydd sbon.

Innovation Engine - Mae’r ‘innovation engine’ yn defnyddio proses unigryw sy’n galluogi cwmnïau i gyflymu’r broses datblygu syniadau a dod ag atebion newydd i’r farchnad mewn modd didrafferth. 

 

Fe fuom yn sgwrsio â Simon Fraser, Rheolwr Gyfarwyddwr Hut Six Security, i glywed ei farn am y digwyddiad

Cawsom ni, Hut Six, ein gwahodd i arddangos ein busnes yn ardal CreuSbarc. Rhoddodd hyn le blaenllaw i ni yng Ngŵyl Digital oherwydd bod ein man arddangos wrth y brif fynedfa ac roedd yr holl bobl a oedd yn dod i'r digwyddiad yn mynd heibio.

Drwy gymryd rhan yn eu cystadleuaeth cyflwyno byw, fe gawsom lawer o sylw yn ogystal ag adborth gan banel profiadol. Mae’n braf bod yn rhan o ymgyrch CreuSbarc yn cynrychioli entrepreneuriaeth yng Nghymru.

Fe gawsom gyfle i gwrdd â darpar gwsmeriaid a phartneriaid newydd rhagorol. Mae bob amser yn wych gweld pa mor fywiog y gall y maes technoleg yng Nghymru fod.

 

Gweithio ar y cyd - Entrepreneuriaeth ar draws Ffiniau

Yn ddiweddar, fe wnaeth CreuSbarc gynnal digwyddiad ‘Gweithio ar y cyd – Entrepreneuriaeth ar draws Ffiniau’ yn yr Hen Lyfrgell yng nghanol Caerdydd fel rhan o Ŵyl Arloesedd Cymru.

Bwriad y digwyddiad hwn oedd dod â phobl a sefydliadau o’n pum grŵp o randdeiliaid (academia, cyfalaf risg, llywodraeth, corfforaethau ac entrepreneuriaid) at ei gilydd i drafod ac ymchwilio i economi ffyniannus Sbaen ac i ymestyn y potensial ar gyfer cyfleoedd busnes newydd, yn ogystal â chyfnewid syniadau.

Roeddem yn falch iawn o groesawu Carlos Bastarreche Sagues, Llysgennad Sbaen, i agor y digwyddiad a chael clywed gan ddetholiad o siaradwyr ysbrydoledig o ICEX, MediTech Pharmacy a Ffotogallery, gyda phanel holi ac ateb byw i ddilyn.

I ddod â’r digwyddiad i ben, bu Marcelino Castrillo, Rheolwr-Gyfarwyddwr Busnes a Bancio Uwch NatWest, yn rhannu ei ddealltwriaeth werthfawr o sut mae NatWest yn annog ac yn cefnogi entrepreneuriaeth seiliedig ar arloesi yng Nghymru ac ar draws ffiniau.

Dywedodd Caroline Thompson, Prif Swyddog Gweithredol CreuSbarc:

Roedd y digwyddiad hwn yn enghraifft wych o ymgyrch CreuSbarc ar waith. Fe wnaethom groesawu sefydliadau ac unigolion o’n pum grŵp o randdeiliaid i gael gwybodaeth werthfawr ac i ddeall a datgelu’r cyfleoedd busnes newydd a chyffrous rhwng Sbaen a Chymru.

Fe gawsom gyfle i glywed yn uniongyrchol gan ddylanwadwyr allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau yn ecosystem Sbaen, a fu’n rhannu eu huchelgeisiau o ran annog a chefnogi rhagor o entrepreneuriaeth seiliedig ar arloesi ar draws ffiniau. Roedd y digwyddiad yn cyd-fynd yn berffaith â gweledigaeth CreuSbarc o greu ecosystem weledol, syml sydd wedi’i chysylltu yng Nghymru a thu hwnt, ac rydym yn ddiolchgar iawn i NatWest Cymru am eu gwaith i gefnogi ein hymdrechion.

 

Cliciwch yma i ymuno â mudiad CreuSbarc heddiw ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.