Ceisiadau AR AGOR ar gyfer digwyddiad cyntaf #PitchItCymoedd

Mae #PitchItCymoedd wedi cael ei lansio ar y cyd ag Angylion Buddsoddi Cymru, Banc Datblygu Cymru, Llywodraeth Cymru, Ein Cymoedd Ein Dyfodol a #CreuSbarc i roi cyfle i entrepreneuriaid  gynnig syniad yn fyw o flaen panel o fuddsoddwyr uchel eu parch i gael hyd at £75k o fuddsoddiad ecwiti yn ogystal â chymorth parodrwydd buddsoddwyr, a mentora arbenigol.

PitchItCymoedd Graphic

Mae’r digwyddiad yn dilyn patrwm #PitchItCymru, a dyma’r tro cyntaf i rywbeth o'r fath gael ei gynnal yn y Cymoedd. Bydd y sesiwn gyntaf o syniadau yn cael ei chynnal ar 20 Mehefin 2019 yng Ngholeg y Cymoedd, Campws Aberdâr.

Yn y digwyddiad ym mis Mehefin, bydd 5 o entrepreneuriaid yn cael eu dewis ar gyfer y sesiwn syniadau derfynol ym mis Tachwedd 2019. Bydd pawb yn y rownd derfynol yn cael ei gyfle i wneud cais am hyd at £75k o fuddsoddiad ecwiti gan gyfuniad o fuddsoddwyr.

Mae #PitchItCymoedd yn cyd-fynd â gweledigaeth Creu Sbarc o greu ecosystem fwy amlwg, syml a chysylltiedig ac o alluogi busnesau yng Nghymru i ennill a thyfu’n gynt drwy eich cysylltu chi â'r meddyliau disgleiriaf yng Nghymru.

Felly, oes gan eich syniad chi botensial?

Cyflwynwch eich cais drwy anfon tudalen am eich busnes i hello@bethespark.info.

Bydd y ceisiadau’n cau ar 24 Mai 2019.