Astudiaeth achos InvEnterPrize - Aberpreneurs - Rhoi syniadau ar waith

Cafodd cystadleuaeth InvEnterPrize gan Aberpreneurs ym Mhrifysgol Aberystwyth ei lansio ar 12 Tachwedd 2018. Daeth entrepreneuriaid y dyfodol ynghyd yn y cyflwyniad a gynhaliwyd fel rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd sydd bellach yn cael ei galw'n 'yr ŵyl fwyaf o entrepreneuriaeth'. Mae dros 164 o wledydd yn cymryd rhan yn yr wythnos hon ac mae dros 37,000 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal. Yn ogystal â chysylltu ecosystemau byd eang mae themâu Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd ar gyfer eleni yn cydnabod menywod, pobl ifanc a chynhwysiant.  

Aberpreneurs

Llun trwy garedigrwydd Prifysgol Aberystwyth

Cafodd yr erthygl ei hysgrifennu gan Lorri Browning, Llywodraeth Cymru

 

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid grant i Golegau a Phrifysgolion drwy'r Rhaglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid fel y gallant gynnal gweithgareddau sy'n codi ymwybyddiaeth o entrepreneuriaeth ac sy'n creu cyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion ystyried a datblygu eu syniadau a'u sgiliau busnes gydol y flwyddyn academaidd. Caiff sefydliadau eu cynorthwyo i roi sylw i entrepreneuriaeth drwy'r ymgyrch Syniadau Mawr Cymru a'r gwasanaethau cysylltiedig. Ffrwyth hyn yw wythnos yn llawn gweithgareddau cynhwysol ar gyfer Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, a gynhelir bob mis Tachwedd. Mae rhwydwaith 'AberPreneur' Prifysgol Aberystwyth yn cynnig wythnos yn llawn gweithdai a 'chyflwyniadau sy'n ysbrydoli' ynghylch  pynciau fel menter gymdeithasol, treth a chadw cyfrifon, cyllid torfol, eiddo deallusol ac ymchwil farchnad fel rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd. Uchafbwynt yr wythnos yw lansio'r gystadleuaeth InvEnterPrize sy'n anelu at annog entrepreneuriaeth drwy sbarduno syniadau newydd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau. Cafodd y gystadleuaeth InvEnterPrize ei lansio gyntaf ym mis Medi 2012 ac mae ar agor i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ac i'r myfyrwyr hynny sydd wedi graddio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd gan ymgeiswyr bedwar mis i gyflwyno cais a fydd yn amlinellu eu syniad blaengar a'u cynllun busnes a ddylai gynnwys manylion fel marchnadoedd posibl, hawliau o ran eiddo deallusol, amserlen cychwyn y busnes, posibiliadau twf y busnes a'r cyfleoedd posibl o ran swyddi. Dylai'r cynlluniau busnes hefyd gynnwys manylion ynghylch llif arian a sut y byddai'r arian InvEnterPrize yn cael ei wario. Gwahoddir syniadau ar gyfer busnesau a mentrau cymdeithasol. Mae'r broses o ymgeisio yn broses werthfawr ynddi'i hun gan ei bod yn gorfodi'r entrepreneuriaid i graffu ar eu syniadau a'u cynlluniau busnes ac ystyried pethau o safbwynt gwahanol, gan dynnu sylw at eu cryfderau a phennu meysydd y mae angen rhoi mwy o sylw iddynt.

Gall ymgeiswyr hefyd gyflwyno cais i gael eu hystyried ar gyfer gofod swyddfa am flwyddyn ar Gampws Arloesedd a Menter Aberystwyth. Dyma ofod ar gyfer unrhyw fusnes yn y sector biowyddorau, amaethyddol neu wyddorau bywyd a bydd cyfle i gwblhau'r rhaglen bio garlam dros 12 wythnos, sef rhaglen sy'n canolbwyntio ar fasnacheiddio arloesedd o fewn y sectorau biowyddorau a gofal iechyd ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ym mis Mawrth 2019 bydd y bobl ar y rhestr fer yn dod ynghyd i gyflwyno eu syniad busnes gerbron panel o feirniaid. Caiff y wobr o £10,000 ei hariannu gan alumni Aberystwyth. Mae enillwyr blaenorol wedi elwa ar y wobr o £10,000 ac wedi llwyddo i sefydlu mentrau llwyddiannus.

Mae amser o hyd i gyflwyno cais. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.