6 entrepreneur o'r Cymoedd wedi’u dewis ar gyfer rownd derfynol #PitchItCymoedd

Ar yr 20fed Mehefin, cynhaliodd Creu Sbarc, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, Ein Cymoedd, Ein Dyfodol a Llywodraeth Cymru rownd gyntaf #PitchItCymoedd ar Gampws Aberdâr yng Ngholeg y Cymoedd. Digwyddiad oedd yn enghraifft wych o Creu Sbarc ar waith. 

Pitch It Valleys Finalists

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i 15 entrepreneur uchelgeisiol o’r Cymoedd gynnig eu syniad busnes gerbron panel o bum angel buddsoddi am gyfle i gael eu dewis ar gyfer y rownd derfynol ym mis Tachwedd a mynd yn eu blaen i geisio cael £75k o fuddsoddiad ecwiti yr un. 

Cafodd y beirniaid a’r gynulleidfa eu syfrdanu gan safon, brwdfrydedd ac uchelgais y 15 unigolyn a gyflwynodd eu syniadau. Bwriad y beirniaid oedd dewis pump ar gyfer y rownd derfynol, ond ar ôl cryn drafod, dewiswyd chwe entrepreneur i fynd yn eu blaen i’r cam nesaf. Yn ogystal â chael eu dewis ar gyfer y rownd derfynol, bydd ein buddsoddwyr yn cefnogi pob entrepreneur drwy roi cymorth parodrwydd buddsoddwyr pwrpasol iddynt gyda’r bwriad o gynyddu’r tebygolrwydd o fuddsoddi erbyn y rownd derfynol ym mis Tachwedd.

Dyma’r 6 entrepreneur:

Dog Furiendly

Chocolate House

Terry’s Patisserie

Nightingale HQ

Old Faithful

Wardill Motorcycles

 

Fel y byddech yn ei ddisgwyl gyda Creu Sbarc, roedd tro yng nghynffon y digwyddiad. Creodd cyflwyniad Abigail Dymmock a Sophie Brown, cyd-sylfaenwyr Jack and Amelie gymaint o argraff ar y panel o feirniaid, nes iddynt gyhoeddi, ar ben y chwe unigolyn a gyrhaeddodd y rownd derfynol, eu bod yn awyddus i ddechrau trafod buddsoddi gyda’r ddwy hyn ar unwaith yn dilyn y digwyddiad. 

Jack and Amelie

Byddwn yn dilyn taith fuddsoddi’r chwe unigolyn sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, yn ogystal â Jack and Amelie, dros yr ychydig fisoedd nesaf felly cadwch lygad amdanynt yn ein blog nesaf ar #PitchItCymoedd...