Hayley Parsons: Sylfaenydd Go Compare

Mae Gio Compario, sef seren “yr hysbyseb deledu fwyaf pryfoclyd ym Mhrydain” yn adnabyddus ar draws y wlad. Ond gwyddys llai am Hayley Parsons, sef sylfaenydd Go Compare a werthwyd gan yr entrenpreneur o Gymru yn y pen draw am £190 miliwn.

Yma mae Hayley yn trafod ei gyrfa cynnar, a sut arweiniodd yr awydd ganddi am ‘rhywbeth newydd; rhywbeth gwahanol’ at chwyldro yn y diwydiant yswiriant.

“Dyna oedd fy ysbryd entrepreneuraidd yn dod i’r amlwg hyd yn oed pan oeddwn i’n ifanc”

 

Roedd fy nhad eisiau i mi sefydlu siop trin gwallt ar ôl i mi adael yr ysgol. Roedd e’ eisiau i mi fod yn hunangyflogedig, roedd fy mam eisiau ei thriniwr gwallt ei hun, a ’doeddwn i ddim yn bwriadu mynd i’r brifysgol, felly meddyliais, “Pam lai?”

Nid fi oedd y disgybl cryfaf yn yr ysgol ac roeddwn i’n arfer colli gwersi, neu ‘mitsio’, ar adegau. Byddai’r alwad ffôn anochel yn dod gan y pennaeth, yn gofyn pam nad oeddwn i wedi bod i’m gwersi, ond byddwn yn cyrraedd y ffôn cyn fy mam ac esgus mai fi oedd hi. Roeddwn i’n gwybod sut i siarad â phobl, sgìl a fyddai’n bwysig iawn yn fy llwyddiant fel oedolyn. Roeddwn i’n gallu achub y blaen ac nid oeddwn yn ofni mentro. Rwy’n credu mai dyna oedd fy ysbryd entrepreneuraidd yn dod i’r amlwg hyd yn oed pan oeddwn i’n ifanc.

Gadewais yr ysgol yn 16 oed a’r diwrnod canlynol cefais gyfweliad gyda chwmni yswirwyr yn agos i’m cartref yng Nghwmbrân, de Cymru. ’Doeddwn i ddim yn bwriadu mynd i faes yswiriant, ond y swydd honno oedd fy nhocyn i oedolaeth ac annibyniaeth.

 

“Roeddwn i’n gwybod bod gen i’r wybodaeth a’r profiad i wneud llwyddiant ohono”

 

Gweithiais yn galed yn fy swydd newydd, ond roedd fy mryd bob amser ar swydd a oedd yn ymwneud mwy â chwsmeriaid fel y gallwn siarad â phobl am eu gofynion a’u polisïau yswiriant.

Ar ôl dwy flynedd yn y froceriaeth, cefais gynnig swydd rheolwr cangen gan gwmni yswiriant arall. Tua’r adeg honno, roedd gen i ffrind a oedd yn gweithio i Admiral, sef cwmni a oedd yn tyfu i fod yn rym pwysig yn y diwydiant. Roedd Admiral eisiau sefydlu ei froceriaeth yswiriant ei hun ac roedd hynny’n rhan o’r busnes yr oeddwn i eisoes yn gyfarwydd iawn â hi. Flwyddyn ar ôl dod yn rheolwr cangen, cyflwynais gais am swydd gyda’r cwmni o Gymru a chefais fy mhenodi yn ei dîm telewerthu.

Roedd y swydd yn wych, ond nid oedd yn ddigon i mi. Yr hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud oedd sefydlu broceriaeth yswiriant ar gyfer y cwmni ei hun. Roeddwn i’n gwybod bod gen i’r wybodaeth a’r profiad i wneud llwyddiant ohono, felly curais ar ddrysau’r cyfarwyddwyr yn barhaus, yn gofyn am eu cymeradwyaeth. Ar ôl llawer o blagio, talodd fy nyfalbarhad ar ei ganfed a rhoddwyd caniatâd i mi ddechrau datblygu cysyniad y gallem ni ei lansio fel broceriaid yswiriant mewnol.

Roedd y rôl newydd yn gymaint o hwyl ac fe wnaethon ni lwyddiant mawr ohoni. Roeddem ni’n yswirio ceir perfformiad uchel a’m gwaith i oedd yswirio’r polisïau. Byddem ni’n trefnu yswiriant ar gyfer grwpiau sydd fel arfer yn talu’r premiymau uchaf. Roedd y gwaith yn gyffrous – newid mawr o amgylchedd busnes arferol Admiral.

 

“Yn syml iawn, trodd Confused y farchnad yswiriant ar ei phen”

 

Roedd y busnes a adeiladon ni yn Admiral yn wych, ond cafodd ei roi ar gontract allanol ym 1999, yn union wrth i’r syniad ar gyfer Confused.com gael ei ffurfio. Cwmni cychwynnol o dan ambarél Admiral oedd Confused yn ei hanfod, ac roedd ganddo sylfaen gref pan gafodd ei lansio yn 2002. Cymerodd amser hir i ddatblygu’r technolegau a’r cysyniad wrth wraidd y cwmni newydd, a’r prosiect hwn yw’r peth anoddaf i mi weithio arno erioed. Ond roedd y pum mlynedd o waed, chwys a dagrau wedi dwyn ffrwyth, ac fe arweiniodd at fy mhenodi’n bennaeth yswiriant, perthnasoedd a phartneriaethau.

Roedd agwedd fwyaf heriol y swydd yn deillio o’r ffaith ein bod ni’n newid y model dosbarthu yswiriant yn ei hanfod. Roedd rhaid i mi berswadio’r cwmnïau yswiriant eraill mai ffordd newydd o wneud busnes oedd hon, ac y byddai popeth ar-lein yn fuan ac y dylen nhw ymuno â ni. Roedd y neges yn aflonyddol i’r diwydiant ac ni chafodd lawer o groeso. Hefyd, roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhaid i gwsmeriaid gael eu helpu a’u tywys trwy arferion prynu newydd ar gyfer yswiriant. Roedd y broses o brynu polisi wedi symud o siop ar y stryd fawr i’r ffôn, ac yn awr roedd ar-lein.

Yr hyn a sbardunodd lwyddiant cynnar Confused oedd datblygiad y dechnoleg. Ond roedd agwedd wych yng ngrŵp Admiral hefyd, a oedd bob amser yn croesawu ffyrdd newydd o weithredu a meddwl am sut y gallai yswiriant weithio.

Er mor werth chweil oedd fy amser yn Confused.com, nid fi oedd y pennaeth. Roedd fy llwyddiant wedi fy argyhoeddi fy mod i’n barod i gymryd y cam olaf a gweithio i fi fy hun. Roedd yn benderfyniad anodd, oherwydd ei fod yn golygu y byddwn yn gwahanu oddi wrth Admiral a fu’n rhan mor fawr o’m bywyd. Ond busnes yw busnes; roeddwn i’n gwybod bod rhaid i mi symud ymlaen.   

 

“Roedd lle i rywbeth newydd – rhywbeth gwahanol”

 

Nid rhywun sy’n hoffi eistedd yn llonydd ydw i. Pan oeddwn i yn Admiral, roeddwn i bob amser yn awyddus i ddysgu cymaint ag y gallwn, datblygu a symud ymlaen. Roeddwn i bob amser yn gwybod pan ddeuwn i bwynt yn fy swydd lle na allwn ddysgu mwy, y byddai’n rhaid i mi chwilio am fwy. Dyna beth wnes i gydag Admiral – ac fe arweiniodd at gromlin ddysgu fwyaf fy mywyd.

Deffroais y diwrnod ar ôl ymddiswyddo, yn gwybod bod rhaid i mi wireddu hyn. Roedd gen i’r cymhelliad, y brwdfrydedd a’r wybodaeth i wneud iddo lwyddo. Trwy fy ngwaith yn Confused, roeddwn i’n gwybod bod lle i’r model safle cymharu a ddatblygwyd gennym esblygu ymhellach, ac roeddwn i wedi sefydlu cyfoeth o berthnasoedd gweithio a fyddai’n fy helpu i wneud hyn.

Dim ond dau gystadleuwr arall oedd yn y farchnad, felly roedd lle o hyd i rywbeth newydd – rhywbeth gwahanol. 

Nid oedd y model safle cymharu yn canolbwyntio digon ar y defnyddiwr; dyna’r cyfan yr oedd angen i mi ei wybod i ymladd yn erbyn y sefyllfa bresennol a lansio cwmni newydd. Roeddwn i’n gwybod bod cymaint mwy o wybodaeth y gallai’r defnyddiwr fod yn ei derbyn cyn gwneud y penderfyniadau hollbwysig hynny i brynu polisïau.

Roeddwn i’n gwybod sut yr oeddwn eisiau i’r wefan edrych a gweithio, a’r hyn oedd wrth wraidd y cyfan oedd bod yn agored ynglŷn â’r hyn yr oedd defnyddwyr yn ei gael am eu harian.

Y cam cyntaf oedd cael sgwrs gydag un o’m ffrindiau gorau a oedd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â mi. Rhai galwadau ffôn a diwrnodau yn ddiweddarach, roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy nghyflwyno i ddarpar fuddsoddwr, a sgwrs pryd y cynigiwyd £1.5 miliwn o gyllid i mi.

Ymunodd ffrind da arall â mi i fod yn gyfrifol am ochr TG y busnes, a dyna ni – roeddem ni ar ein ffordd.

Roeddem ni i gyd yn gwybod sut oeddem ni eisiau gwella’r farchnad yswiriant, ond nid oedd gennym ni gynllun eglur ar gyfer sut i gyflawni hynny. Nid oedd gennym ni swyddfa ychwaith; treuliwyd y diwrnodau cynnar hynny’n gweithio o gartref wrth fwrdd fy nghegin ac ehangu’r tîm yn araf wrth i’n syniadau a’n dulliau ddatblygu.

Am yr ychydig fisoedd cyntaf, fe ganolbwyntion ni ar y technolegau newydd y byddem ni’n eu defnyddio i roi llwyfan i’r busnes newydd. Fe wynebon ni rwystrau ar hyd y ffordd, fel pob cwmni cychwynnol: roedd gennym ni raglenwyr gwych, ond nid oeddent o reidrwydd yn arbenigwyr ar sefydlu rhwydweithiau cyfrifiadurol. Trwy ein cysylltiadau, fe gysyllton ni â rhywun a oedd yn sefydlu busnes TG arall ar y pryd, a'i berswadio i ymuno â ni. Roedd hynny wedi ein galluogi i gronni ein hadnoddau, gan ddefnyddio pob modd a oedd ar gael i ni i helpu i gychwyn y cwmni’n dda.

 

"Byddai'n wych bod yno pan fydd Go Compare arall yn cael ei greu"

 

Ym mis Rhagfyr 2014, ar ôl wyth mlynedd wych yn adeiladu'r cwmni o ddim byd, penderfynais adael Go Compare; ei werth terfynol oedd £190 miliwn.  

Rydw i'n dal i fod yn falch iawn o'r cwmni a ddechreuais wrth fwrdd y gegin, ac sydd wedi cyflawni cymaint mewn cyfnod mor fyr. Mae bellach yn fusnes cymharu prisiau blaenllaw yn y DU ac mae hynny diolch i'r holl bobl ddiwyd, anhygoel sydd gennym ni yng Nghasnewydd lle mae'r cwmni wedi'i leoli. Hoffwn ddymuno pob lwc yn y dyfodol i'r holl bobl sy'n gysylltiedig â'r busnes. 

Ers gadael y cwmni, rydw i wedi troi fy llaw at fentora a buddsoddi mewn busnesau newydd drwy helpu i greu Ysbrydoli Cymru. Ochr yn ochr ag entrepreneuriaid blaenllaw eraill o Gymru, byddaf yn rhoi cymorth ariannol ac yn mentora busnesau newydd yng Nghymru wrth iddyn nhw ddechrau tyfu. Y gobaith yw y byddwn ni, ar yr un pryd, yn helpu economi Cymru yn yr hirdymor hefyd. 

Mae'n gyffrous meddwl y gallwn ni helpu rhai o'r cwmnïau yng Nghymru fydd ar restr FTSE yn y dyfodol, a fedra i ddim aros i glywed y cynigion busnes a gwrando ar rai o'r syniadau busnes. Byddai'n wych bod yno pan fydd Go Compare arall yn cael ei greu.  

Ar wahân i'r busnes yswiriant, mae'n sicr y byddwch yn fy ngweld i ar Lôn y Felin a Stryd Caroline - neu 'Chippy Alley' - yng Nghaerdydd pan fydd tîm rygbi Cymru yn chwarae. Roeddwn i'n gwneud hynny ddeng mlynedd yn ôl ac rydw i'n dal i'w wneud heddiw.