Dan Simmons – Populate Social

Mae Dan Simmons, sylfaenydd Populate Social, yn disgrifio ei siwrnai o lansio ei gwmni wrth adael y Brifysgol i ble mae nawr a’i ddyheadau ar gyfer y dyfodol. 

Populate Social yng Nghaerdydd yw’r unig gwmni marchnata cyfryngau cymdeithasol penodol yn Ne Cymru. Mae’n rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer cleientiaid o bob siâp a maint yn fyd-eang.         

Mae’r tîm yn creu fideos, ffotograffiaeth ac animeiddiadau fel cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Hefyd mae ganddo dîm o strategwyr sy’n rhoi’r cynnwys at ei gilydd mewn fformat sy’n ceisio sbarduno budd ar fuddsoddiad ar gyfer ei gleientiaid.

Mae Dan yn falch o fod yn dangos llwybr arall ymlaen allan o Brifysgol. Dywedodd “gyda’r gefnogaeth sydd ar gael fe allwch chi ddeffro un bore a dechrau gwneudrhywbeth – does dim rhaid i chi gael miliynau o bunnoedd i ddechrau busnes”.

Gwrandewch ar y cyfweliad byr yma gawsom ni gyda Dan i gael gwybod mwy.