Chris Morton, Prif Swyddog Gweithredol Caledan

Sut mae un dyn yn rhoi hwb i ddadeni'r diwydiant dur yng Nghymru

Beth oedd eich swydd gyntaf un?

Dechreuodd fy ngyrfa pan oeddwn i’n 16 oed pan gefais fy nghyflogi i fod yn blastrwr prentis yng nghymoedd de Cymru. Roeddwn yn mwynhau cael rôl ymarferol yn y diwydiant adeiladu, ond roeddwn yn awyddus i ymestyn fy sgiliau.

Sut cawsoch y cyfle i fynd i’r diwydiant dur/gweithgynhyrchu?

Ar ôl bod yn blastrwr am 6 blynedd a mynd i ysgol nos am 2 flynedd, penderfynais fanteisio ar y cyfle i fod yn syrfëwr meintiau dan hyfforddiant. Rwyf wedi gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu byth ers hynny. Mae fy mhrofiad ymarferol cynnar wedi bod yn werthfawr i mi yn ystod fy ngyrfa oherwydd fy mod wedi cael syniad clir o’r gwasanaeth sydd ei angen i fynd gyda’r cynnyrch er mwyn sicrhau’r ansawdd gorau.

Pryd gwnaethoch chi sylwi gyntaf ar y cyfle i greu melin rholio dur newydd ac ystyried bod y diwydiant dur wedi bod yn dirywio yn y DU?

Cyn lansio Caledan, treuliais 20 mlynedd yn arwain cwmni gosod a oedd yn arbenigo mewn systemau mewnol a fframiau dur ysgafn. Wrth weithio ar amrywiol brosiectau ar draws de Cymru, daeth yn amlwg bod gwir angen gweithgynhyrchwr yma yng Nghymru, a chael gwared ar yr angen i ddanfon/cludo cynnyrch i’r ardal er mwyn i’r gwaith gael ei wneud. Roeddwn yn frwd dros greu busnes gweithgynhyrchu yng Nghymru, ac yn gweld, wrth wneud hynny, y gallwn elwa ar sgiliau a phrofiad lleol a chefnogi'r diwydiant dur a oedd wedi bod yn dirywio cyn hynny.

Beth sy’n gwneud Caledan yn wahanol?

Fy ngweledigaeth ar gyfer Caledan ers y cychwyn un yw darparu gwasanaeth cyflawn o’r dechrau i’r diwedd. Rydym yn ymfalchïo ar gynnig system bwrpasol o’r dechrau i’r diwedd, pob un wedi'i theilwra ar gyfer y cwsmer a’i anghenion unigol. Gan ein bod yn delio â’r dyluniad, y gweithgynhyrchu a'r cydosod, gallwn gynnig gwasanaeth a chynnyrch rhagorol a symleiddio prosiectau ar gyfer ein cleientiaid. Ni fydd angen iddynt ymwneud â sawl cyflenwr mwyach er mwyn cyflawni’r gwaith, a bydd hyn ynddo'i hun yn arbed amser ac arian.

Beth yw’r peth gorau am weithio yng Nghymru?

Rwy’n falch iawn o fod yn Gymro. Mae gan y wlad hanes o grefftwaith o ansawdd, ethos gwych a'r bobl a’r sgiliau priodol i fod yn sylfaen gweithgynhyrchu gyda'r gorau yn y byd. Rwy’n lwcus bod fy mrwdfrydedd dros y busnes yn gallu ffynnu yn y lle hwn sy’n gartref i mi, ac rwy’n gobeithio y bydd Caledan a’r gwaith a wnawn yn rhan greiddiol o ddyfodol diwydiannol Cymru.

Beth, yn eich barn chi, fydd yr heriau mwyaf yn ystod y 12 mis nesaf?

A ninnau’n gwmni newydd, ein her fwyaf fydd cael y diwydiant i gydnabod ein brand. Mae hwn yn faes anodd ei ennill ac yn un pwysig hefyd. Rydym yn credu bod gennym gynnyrch unigryw o’r safon orau – yr hyn sydd angen i ni ei wneud yn awr yw dweud wrth bawb amdano.

Ble byddech chi'n hoffi gweld y busnes ymhen 5 mlynedd?

Hoffwn weld Caledan yn fusnes sy’n cael ei gydnabod fel y cyflenwr gorau i fusnesau yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n amser pwysig i’n busnes ni ac i’r diwydiant cyfan. Hoffem fod yn gyflenwr mae pobl yn ei ddewis yn gyntaf yn ogystal â bod yn gyflogwr lleol gwerthfawr gan ddod yn rhan greiddiol o’r gymuned yn y tymor hir.

Pa fath o brosiectau mae'r busnes wedi bod yn ymwneud â nhw hyd yma?

Rydym wedi llwyddo i sefydlu cytundebau masnach gyda nifer o gyflenwyr lleol a chenedlaethol. Rydym eisoes yn defnyddio ein sgiliau ar draws ystod o wahanol brosiectau, o brosiectau tai preswyl i fentrau mwy masnachol fel canolfannau cynadleddau a chanolfannau hamdden.

Yn eich barn chi, beth fydd dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?

A llaw ar fy nghalon, rwy’n credu bod gan ddiwydiant Dur Cymru ddyfodol disglair, ac rwy’n frwd dros ddatblygu Caledan i fod yn biler craidd y diwydiant. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y sgiliau, y brwdfrydedd a’r cynnyrch yn ne Cymru yn llwyddo, a drwy weithio’n galed yn awr gallwn ddiogelu'r diwydiant ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i chi’ch hun pe byddech yn cychwyn y daith hon eto?

Byddwn yn dweud wrthyf fi fy hun am ddal ati i ddyfalbarhau ond i gofio chwilio am yr atebion syml. Byddwn yn fy atgoffa fy hun i ganolbwyntio ar yr heriau sy’n hawdd eu hennill a'r tasgau sy’n flaenoriaeth. Mae gormod o amrywiaeth yn gallu bod yn gostus felly byddwn yn dweud wrthyf fi fy hun am flaenoriaethu.

 

Ffynhonnell: Brand Content - http://brandcontent.co.uk/