Adam Dixon – Phytoponics

Mae’r entrepreneur ifanc yma wedi troi hobi yn fusnes sy’n werth £2M.

Dechreuodd Adam Dixon ymddiddori mewn hydroponeg - y broses o dyfu planhigion heb bridd - pan oedd yn ei arddegau cynnar. Roedd yn meithrin nifer o blanhigion, yn arbrofi gydag amodau tyfu ac yn baeddu’i ddwylo yn gyffredinol ar bob cyfle posib. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach - ac ar ôl cael gradd mewn Peirianneg Fecanyddol a gradd Meistr mewn Dylunio Peirianyddol - mae Adam bellach yn Brif Swyddog Gweithredol yn Phytoponics. Dyma’r cwmni y mae wedi’i sefydlu ar y cyd ar ôl dyfeisio system hydroponeg arloesol sydd wedi’i thargedu at dyfwyr masnachol ar raddfa fawr.

Mae Adam yn cyfaddef ei fod yn ddyfeisiwr, a dydy o erioed wedi bod yn brin o syniadau. Fel y rhan fwyaf o ddyfeiswyr, fodd bynnag, roedd yn haws cael syniadau na meddwl sut gallai eu cyflwyno i’r farchnad. Yn hyn o beth, daeth pethau’n glir Adam pan oedd yn gweithio fel awdur cynnwys llawrydd wrth astudio. Mae Adam yn esbonio, “Cefais fy nghyflogi gan gwmni technoleg a oedd yn dechrau arni, a phan roeddwn i’n gweithio ar eu strategaeth ar gyfer gwerthu, sylweddolais yn sydyn iawn y byddai modd i mi fasnacheiddio fy nyfeisiadau fy hun. Helpodd hynny i mi gyrraedd lle’r ydw i heddiw.”

Sefydlodd Adam Phytoponics ar y cyd â dau entrepreneur ifanc arall pan oedd yn astudio ar gyfer ei radd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd y tri ohonyn nhw eu bwrw i’r dwfn, ac mae Adam yn cyfaddef ei fod wedi gorfod dysgu llawer iawn yn ystod y dyddiau cynnar hynny. Ond, daliodd y tri ati i ganolbwyntio, a daeth tro ar fyd i’r busnes pan wnaeth ennill rhywfaint o wobrau. Hefyd, cafodd y cwmni ei ddewis ar gyfer rhaglen sbardun, ac yn ôl Adam, roedd hyn yn hollbwysig o ran datblygu’r busnes a chreu cysylltiadau newydd. Cafodd y cwmni ei gleient cyntaf yn fuan wedyn. Mae pethau wedi mynd mor dda ers hynny, erbyn hyn mae Phytoponics yn werth £2M.

Mae profiad Adam fel entrepreneur wedi agor ei lygaid i grefft entrepreneuriaeth. Mae’n credu bod angen mwy o gymorth ar entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru ym maes rheoli risg yn arbennig, er mwyn cyflawni eu potensial yn llawn. Mae’n egluro, “Er mwyn i entrepreneur lwyddo, mae’n rhaid iddo weithio’n galed tuag at leihau risgiau. Er enghraifft, mae risg uchel ar y dechrau yn ystod y cam ymchwil a datblygu - ond mae’r risg yna’n lleihau pan fydd cynnyrch yn cael ei ddatblygu. Mae’n anodd cael cyngor arbenigol am reoli risg, a byddai entrepreneuriaid sy’n dechrau arni’n elwa’n fawr o hyn.”

Gyda Creu Sbarc, mae hyn yn bosibilrwydd go iawn erbyn hyn, ac mae Adam yn teimlo’n gyffrous iawn ynghylch potensial y rhaglen. “Mae Creu Sbarc yn llwyfan gwych,” meddai. “Gyda’i ôl-troed rhyngwladol, rwy’n gobeithio y bydd yn arwain at ddysgu pethau gan economïau blaengar ledled y byd, a helpu Cymru i gyrraedd y lefel nesaf yn y pen draw.”