5 ffordd o arddangos arweinyddiaeth gynhwysol

Mae arweinydd cynhwysol yn golygu rhywun sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth yn eu sefydliad. Mae’r arweinydd yn deall bod timau amrywiol yn perfformio’n well a bod pŵer yn ein gwahaniaethau. Am amser hir, roedd ‘Amrywiaeth a Chynhwysiant’ yn cael eu hystyried fel rhywbeth i gwmnïau mawr boeni amdanyn nhw, ond mae’r sgwrs yn newid ac mae mwy o fusnesau’n edrych ar hyn yn gynt yn eu taith erbyn hyn.

Inclusion blog post

Dydy’ch sefydliad byth yn rhy fach, ac nid yw hi byth yn rhy gynnar i wreiddio arferion amrywiaeth a chynhwysiant yn eich busnes. Dyma bum can y gallwch eu cymryd i ddechrau arni;

 

Edrych ar eich rhagfarnau

Does neb yn hoffi meddwl eu bod yn rhagfarnllyd, ond mae gan bron pob un ohonom ragfarnau. Mae ein hymennydd wedi’i ddylunio i brosesu llawer iawn o wybodaeth yn gyflym iawn, ac mae hyn yn golygu ei fod angen gwneud penderfyniadau a beirniadu’n gyflym. Efallai ein bod yn gwneud tybiaethau am alluoedd ieithyddol rhywun yn seiliedig ar ei enw, neu’n meddwl na fydd rhiant eisiau prosiect newydd a heriol i weithio arno. Er efallai na allwn stopio bod yn rhagfarnllyd yn gyfan gwbl, fe allwn ddod yn fwy ymwybodol ohono ac ymdrechu i beidio meddwl fel hyn.

 

Amrywiaeth ymhlith ein cynghorwyr

Meddyliwch am y bobl sydd wedi dylanwadu ar eich penderfyniadau busnes. Gallai fod yn aelodau o’ch tîm, eich hyfforddwr, eich bwrdd, eich mentor neu eich ffrindiau. Nawr, dylech ofyn i chi’ch hun a oes amrywiaeth yn y grŵp hwnnw o bobl. Mae llawer ohonom yn adeiladu rhwydwaith o bobl o gefndiroedd a chredoau tebyg i’n rhai ni heb sylwi. Gall hyn arwain at wneud penderfyniadau wrth feddwl am un grŵp penodol yn unig, neu’n waeth na hynny, penderfyniadau sy’n gallu niweidio pobl eraill. Eich swydd chi fel arweinydd busnes yw chwilio am leisiau newydd ac ehangu eich rhwydwaith.

 

Edrych ar le rydych yn buddsoddi

Fel arweinydd busnes, rydych yn buddsoddi tri phrif beth - arian, amser a sgiliau. Treuliwch amser yn edrych ar y buddsoddiadau hyn a gweld pwy sy’n elwa ohonynt. Er enghraifft, a yw eich holl gyflenwyr o’r un cefndir ethnig? Ydych chi ond yn mentora pobl sydd o’r un rhyw â chi? Ydych chi’n gwirfoddoli gyda mudiadau sy’n cefnogi pobl o gefndiroedd gwahanol? Pan fyddwch yn gwybod pwy sy’n elwa, gallwch wneud penderfyniadau pwrpasol i newid hynny yn y dyfodol a gwneud yn siŵr bod eich buddsoddiadau o fudd i amrywiaeth ehangach o bobl.

 

Dangos gwendidau

Pan fydd arweinydd yn rhannu ei storïau personol a’i wendidau, mae’n dangos i weddill y tîm bod hynny’n iawn. Gallwch ddechrau sgwrsio am rwystrau rydych wedi’u hwynebu neu faint rydych yn ofni cael pethau’n anghywir. Bydd bod yn agored fel hyn yn annog eraill yn eich cwmni i rannu eu safbwyntiau a’u storïau hefyd. Yna eich tro chi fydd hi i wrando. Pan fyddwn yn dechrau cysylltu ag eraill ar lefel fwy personol, rydym yn deall ein gilydd yn well, ac mae ein perthnasoedd gwaith yn gwella. Un peth yw cael amrywiaeth, mae gwerthfawrogi pawb fel y maent yn beth arall.

 

Gwneud ymrwymiadau cyhoeddus

Os oes angen i chi wneud newidiadau er mwyn dod yn fwy amrywiol a chynhwysol, dylech rannu’r newidiadau hyn gyda’ch staff a’ch cwsmeriaid a dweud wrthyn nhw beth rydych yn bwriadu ei wneud. Mae’n gallu bod yn ddychrynllyd, ond mae bod yn gyhoeddus am eich ymrwymiadau yn dod â lefel o ymddiriedaeth ac atebolrwydd na ellir ei gyflawni wrth wneud yr un fath o waith yn y cefndir. Efallai na fydd yn gweithio i chi bob amser, ond byddwch yn cymryd camau ac yn dangos beth mae eich busnes yn credu ynddo.

 

Man cychwyn yw’r pum cam hyn, y sylfaen i ddechrau symud at ddiwylliant mwy amrywiol a chynhwysol. Byddwch yn gwneud camgymeriadau weithiau, ac mae hynny’n iawn; dylech gydnabod, ymddiheuro a dysgu ar gyfer y tro nesaf. Mae’r byd yn newid, mae’n flaengar ond yn ansicr hefyd. Mae gan fusnesau'r pŵer i effeithio’n gadarnhaol ar y byd, ond er mwyn gwneud hyn, rydym angen arweinyddiaeth sy’n adlewyrchu’r cymunedau amrywiol rydym yn gweithio ynddynt.

 

Ysgrifenwyd gan Hanna Andersen, Founder & Leadership Coach at AS WE ARE.

Mwy o wybodaeth https://www.asweare.org.uk.