Prifysgol Caerdydd yn arwyddo cytundeb Campws Arloesol

Bydd cytundeb i adeiladu’r rhan nesaf o Gampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn creu dros 60 o swyddi, prentisiaethau a gosodiadau.

Mae Bouygues UK Limited, cwmni adeiladu blaenllaw sy’n hen law ar adfywio ardaloedd trefol, wedi ymrwymo i ddatblygu iard reilffordd segur yn ganolbwynt ar gyfer arloesedd.

Bydd Campws Arloesedd Caerdydd (CIC) yn cynnig cyfleusterau arloesol fydd yn helpu ymchwilwyr, myfyrwyr a’r diwydiant i gydweithio er mwyn creu mentrau sy'n creu cynhyrchion, cwmnïau deillio, busnesau newydd a mentrau cymdeithasol.

Bydd y gwaith ar y safle yn creu swyddi ar unwaith mewn meysydd adeiladu a chrefftau cysylltiedig. Pan gaiff ei agor yn swyddogol, bydd y campws yn gartref i gannoedd o ymchwilwyr academaidd, myfyrwyr a staff y Brifysgol yn gweithio ochr yn ochr â’r sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector i fanteisio ar syniadau newydd.

Bydd y campws, ym Mharc Maendy, yn cynnwys dwy ganolfan dechnoleg newydd. Bydd un ohonynt yn gartref i SPARK, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd a'r Ganolfan Arloesedd - gofod creadigol ar gyfer dechrau busnes, cwmnïau deillio a phartneriaethau. Bydd y llall yn gartref i ddau sefydliad ymchwil gwyddonol blaenllaw - Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae Campws Arloesedd Caerdydd wrth wraidd ein hymrwymiad hirdymor i greu ffyniant cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru er budd pawb. Mae’n bleser gennym weithio gyda Bouygues DU er mwyn creu 'Cartref Arloesedd' fydd yn rhyddhau pŵer ymchwil...”

Bydd y campws yn creu swyddi, yn darddle ar gyfer syniadau, ac yn caniatáu cenedlaethau o fyfyrwyr yn y dyfodol sydd â syniadau gwych i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau enbyd byd-eang.

Yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Mae Campws Arloesedd Caerdydd eisoes wedi denu llawer o arian mewn buddsoddiadau ar y cyd gan gynnwys £17 miliwn o Gronfa Buddsoddi Partneriaeth Ymchwil y DU, £13 miliwn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: “Rydym yn falch o gefnogi Campws Arloesedd Caerdydd yn uniongyrchol. Mae'r prosiect yn cyd-fynd â'n Cynllun Gweithredu Economaidd, a gyhoeddais ym mis Rhagfyr, sy'n nodi dull clir ar draws y llywodraeth gyfan ar gyfer adeiladu sylfeini cryfach ar gyfer ein heconomi, ac atgyfnerthu diwydiannau y dyfodol...”

Rwyf yn benderfynol y bydd Cymru yn manteisio ar y technolegau sy'n dod i'r amlwg fydd ar gael yn y cyfleusterau modern hyn. Rwyf hefyd yn hyderus y bydd Campws Arloesedd Caerdydd yn helpu partneriaethau’r sector preifat a chyhoeddus i ffynnu, yn creu amrywiaeth o swyddi o safon uchel, ac yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd a chyffrous y gellir eu defnyddio yng Nghymru a ledled y byd.

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Enillodd Bouygues DU y cytundeb ar gyfer y campws oherwydd eu gwaith trawiadol ar brosiectau tebyg, gan gynnwys adeiladu datblygiadau o bwys ym maes addysg uwch ar draws Cymru, y DU ac yn fyd-eang. Bydd y gwaith adeiladu’n helpu i greu swyddi mewn rheoli adeiladwaith, swyddi technegol a masnachol, yn ogystal â phrentisiaethau ar gyfer llawer o bobl leol.

Dywedodd Rob Bradley, Cyfarwyddwr Rheoli Rhanbarthol Bouygues DU: "Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol i Brifysgol Caerdydd lle byddwn yn defnyddio ein tîm technegol cryf i gyflawni prosiect modern er mwyn darparu manteision economaidd sylweddol i’r Brifysgol a rhanbarth ehangach Prifddinas Caerdydd. Bydd ein hymrwymiad i’r rhanbarth yn sicrhau bod y prosiect hwn yn cyfrannu at gynyddu sgiliau lleol, datblygiad a chyflogaeth yng Nghymru. Byddwn yn darparu o leiaf 30 o leoliadau gwaith, yn creu dros 35 o swyddi newydd a phrentisiaethau, ac yn cyflawni dros 1685 o wythnosau hyfforddiant. Byddwn hefyd yn hwyluso lleoliadau ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio pensaernïaeth a sicrhau ein bod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol drwy gydol cyfnod y cynllun."

Mae Prifysgol Caerdydd yn trawsnewid ei hystâd ar gyfer yr 21ain ganrif - yr uwchraddiad mwyaf i’r campws ers cenhedlaeth. Mae disgwyl i’r gwaith ar y campws fod wedi’i gwblhau erbyn 2021.