App Stryd Fawr Ddigidol yn Derbyn Buddsoddiad o £200,000

Mae App sydd wedi’i ddylunio i adfywio, addasu a thrawsffurfio strydoedd mawr ar draws y wlad wedi derbyn buddsoddiad o dros £200,000.

 

Mae NearMeNow wedi derbyn cyd-fuddsoddiad ecwiti, wedi’i arwain gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi buddsoddi £150,000, gyda £60,000 pellach wedi’i dderbyn gan fuddsoddwyr preifat.

Mi fydd y buddsoddiad yn galluogi’r busnes cychwynnol o Gaerffili, i ddatblygu peilot o’i app gwbl ddwyieithog, Gymraeg a Saesneg, sy’n bwriadu troi strydoedd mawr yn ddigidol.

Victoria Mann, cyn-athrawes fathemateg a dadansoddwr risg gynt, yw’r person tu ôl i’r app. Daeth y syniad iddi pan roedd hi’n eistedd mewn siop trin gwallt un bore ynghanol yr wythnos, lle'r oedd pedwar aelod o staff a tair cadair wag. Dywedodd “Meddyliais: rhaid bod ffordd i lenwi’r cadeiriau yna a denu cwsmeriaid newydd ar yr un pryd.”

“Mae’r cynnydd mewn cystadleuaeth ar-lein wedi rhoi ein strydoedd mawr ni o dan wasgedd, ond eto, mae nifer o bobl dwi’n siarad â dal yn awyddus i brynu’n lleol a defnyddio siopau a chyflenwyr rhanbarthol. Mae NearMeNow yn darparu datrysiad digidol, cost-effeithiol i helpu’r busnesau yna hysbysebu ac ymgysylltu’n fwy effeithiol â chwsmeriaid a chyd-weithio’n fwy effeithlon gyda busnesau eraill.”

Mae NearMeNow yn gobeithio dod â syniadau, sgiliau a thechnoleg ddigidol newydd i hybu strydoedd mawr ar draws Cymru a’r DU, trwy ddatrys problem gymdeithasol ac economaidd byd-real. Mae NearMeNow yn bwriadu lawnsio peilot ei app yn y Bontfaen, ym Mro Morgannwg yn hwyrach yn y Gwanwyn.

Dywedodd, Carl Griffiths, Rheolwr Cronfa Had Technoleg o Fanc Datblygu Cymru: “Mae NearMeNow yn annog cydweithio ar y stryd fawr, fydd yn cefnogi sectorau a chymunedau adwerthu i ffynnu. Mewn oes lle mae’r gystadleuaeth ar-lein yn cynyddu, mae angen i’r sector adwerthu brics a morter drio pethau newydd ac arallgyfeirio eu hapêl. Mae Vicky a’r tîm wedi creu cynnyrch sy’n cwrdd â’r angen ac yn ychwanegu gwerth go iawn i brofiad siopa’r cyhoedd. Rydym ni wir yn edrych ymlaen at weld sut mae NearMeNow yn perfformio yn y peilot sydd i ddod.”

Mae’r busnes wedi derbyn buddsoddiad ecwiti oddi wrth Thud Media, sydd hefyd yn bartner digidol a brandio NearMeNow. Cafwyd buddsoddiad gan Martin Greenhalgh sy’n cymryd rôl Prif Swyddog Technoleg a Sara Lynn Jones sy’n ymuno â NearMeNow fel Prif Swyddog Gweithredu.

Dywedodd Jon Rennie, Cyfarwyddwr Rheoli Thud Media a BAIT Studio:

“Fel stiwdio greadigol gydag arbenigaeth rhyngweithio a dylunio ill dau, roedd hwn yn gyfle i helpu dod â busnes cychwynnol i’r farchnad a gwireddi weledigaeth Victoria am gefnogi siopau a gwasanaethau lleol.

Dywedodd Victoria am y buddsoddiad:

“Rydw i wedi bod yn gweithio ar y syniad am ychydig o flynyddoedd nawr, felly mae derbyn cefnogaeth gan fuddsoddwyr cryf ynghyd a’r Banc Datblygu yn wych. Mae ein peilot bron yn barod i fynd a da ni’n ysu i helpu busnesau stryd fawr leol i gynyddu nifer eu cwsmeriaid, gwaredu gwastraff a rhoi hwb i’r llinell gwaelod.”

Gyda swyddfa yn ICE Cymru yng Nghaerffili, derbyniodd NearMeNow cymorth rhaglenni Accelerator TownSquare, Entrepreneurial Spark NatWest a Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar gyfer busnesau gyda photensial twf uchel.