Paul Teather – Pragmatica

Y cyfalafwr risg sydd wrth ei fodd i fod yn buddsoddi mewn busnesau wedi’u lleoli yng Nghymru.

Efallai nad yw taith Paul Teather o raddedig mewn peirianneg i gyfalafwr risg â ffocws technoleg yn un amlwg. Ond gan edrych yn ôl, roedd yr arwyddion yno o’r dechrau. Swydd gyntaf Paul oedd peiriannwr graddedig i Nwy Prydain, lle y sylweddolodd yn gyflym mai’r prosiectau mawr a oedd yn ei gynhyrfu, yn hytrach na’r rhai mwy cynwysedig.

Esbonia Paul, “Sylweddolais mai’r prosiectau darlun mawr a oedd o’r diddordeb mwyaf i mi. Felly gwirfoddolais i brosiect gweddnewid mewnol a oedd yn ymwneud â sut fyddai Nwy Prydain yn defnyddio technoleg i yrru effeithlonrwydd. O ganlyniad, cwrddais â llawer o gyflenwyr allanol ac ymgynghorwyr a rannodd arferion da a thechnolegau datblygol y maent yn cael eu defnyddio gan gwmnïau nwy mawr ar draws y byd. Dyna’r adeg y cefais fy hun yn tynnu at y sector technoleg ac ymgynghori.”

Ar ôl Nwy Prydain daeth y cawr ym maes meddalwedd busnes, Oracle, lle y gweithiodd Paul i’r grŵp cynnyrch, gan arwain ar ddatblygu’r farchnad a threfnu technolegau symudol a datblygol i gleientiaid yn Ewrop. Unwaith eto, cododd ei law i weithio ar y problemau mwyaf a’r rhai mwyaf strategol – ond roedd cwmpas heriau’r cleient yr oedd modd iddo ymgymryd â nhw wedi’i gyfyngu’n naturiol gan led ymarferoldeb y cynhyrchion, ac yn y pendraw cafodd ei hun yn awyddus i ddatrys heriau mwy strategol a gweddnewidiol.

O ganlyniad i’w awydd i ehangu ei orwelion, ymunodd Paul â chwmni gwasanaethau proffesiynol rhyngwladol, KPMG. “Yn KPMG roeddem yn barod i fynd i’r afael â mwy neu lai unrhyw broblem,” meddai. “Cefais y profiad o fynd i siarad â chwsmeriaid a siarad am unrhyw beth ac adnabod pethau y gallem helpu i’w datrys, yn rhyddhaol. Fel arfer, roedd y datrysiadau’n ymwneud â chymhwyso technoleg, a chefais fy nhynnu’n fwyfwy at ddatrysiadau gweddnewid digidol. Oddi yno, roedd datblygu fy nghwmni fy hun yn esblygiad naturiol.”

Pragmatica Consulting yw’r cwmni hwnnw, lle y mae Paul yn Bartner Rheoli. Yn ei wythfed blwyddyn erbyn hyn, mae Pragmatica yn gwmni ymgynghori a buddsoddi hybrid sydd ag ymagwedd arloesol at ymgynghori – un sy’n seiliedig ar fuddsoddi mewn partneriaethau â chleientiaid, a rhannu llwyddiannau busnes, yn hytrach na chodi ffioedd ymgynghori traddodiadol. Dechreuodd Pragmatica ymwneud â Chymru, a busnesau cynyddol Cymru, tua dwy flynedd yn ôl. Roedd yn rhywbeth a oedd yn gwneud synnwyr i Paul ar nifer o lefelau.

“Roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd â Ken Skates [Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn Llywodraeth Cymru] a ddywedodd wrthyf am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Cymru. Cafodd yr hyn a ddywedodd argraff arnaf, a theimlais ei fod yn amser gwych i ddod yn rhan o’r byd busnes yng Nghymru. Mae’r ffaith bod y llywodraeth, y byd academaidd, entrepreneuriaid a mentrau mawr oll yn cydweithredu i greu economi ddigidol a fydd yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol yn ysbrydoledig iawn.”

I Pragmatica, factor allweddol o ran buddsoddi yng Nghymru oedd adnabod partneriaid cyd-fuddsoddi credadwy. Mae Pragmatica wedi cyd-fuddsoddi mewn Catalyst Growth Partners (darparwr cyfalaf clyfar a leolir yng Nghymru) a Banc Datblygu Cymru ar nifer o drafodiadau dros y 2 flynedd ddiwethaf. “Mae ehangu partneriaid cyd-fuddsoddi o safbwynt Angel a Sefydliadol yn ffocws allweddol wrth symud ymlaen yn ogystal ag adeiladu ar y partneriaethau presennol”.

Wedi buddsoddi mewn nifer o fusnesau uwch-dechnoleg a leolir yng Nghymru, mae Paul yn adnabod menter Creu’r Sbarc yn rhywbeth a all annog fwy byth o entrepreneuriaid yng Nghymru i osod eu marc. “Mae cymuned entrepreneuriaid Cymru mewn sefyllfa wych,” meddai. “Maent yn derbyn anogaeth anghredadwy trwy fenter Creu’r Sbarc, ac yn gyffredinol, mae lefel aruthrol o gymorth ac ariannu ar gael sydd mewn gwirionedd yn gosod Cymru ar ei phen ei hun ac mae’n cynnig potensial sydd bron â bod yn ddiderfyn.”