David Lea Wilson – Halen Môn

Dewch i gwrdd â’r dyn busnes o Ynys Môn sydd wedi troi dŵr y môr yn frand byd-eang.

Fel cyd-sylfaenydd Halen Môn - busnes sy'n cynaeafu a chyflenwi halen môr Môn - mae David Lea Wilson wedi trawsnewid ei weledigaeth yn gynnyrch go iawn sy’n cael ei fwynhau gan fwyd-garwyr mewn dros 25 o wledydd. Yn yr ugain mlynedd ers i David a'i wraig ferwi padell o ddŵr y môr lleol ar stôf y gegin, mae Halen Môn i’w weld ar silffoedd Marks & Spencer, Waitrose a Harvey Nichols, heb sôn am fyrddau rhai o fwytai gorau'r byd, gan gynnwys y Fat Duck.

Heb weledigaeth glir David a’i wraig ynglŷn â’r hyn roedden nhw eisiau ei gyflawni, ni fyddai Halen Môn byth wedi gweld golau dydd - ac ni fyddai'r llwyddiant hwn wedi’i wireddu. Fel yr eglura David, "Halen Môn oedd ein trydydd busnes. Rwy'n credu mai'r rheswm y bu'n gymaint o lwyddiant yw, oherwydd erbyn hynny, roedden ni’n gwybod yn union beth roedden ni eisiau. Roedden ni’n gwybod ein bod am ddatblygu cynnyrch ym mhen uchaf y farchnad lle roedd galw amdano ar hyd y flwyddyn. Roedd ein busnesau eraill wedi bod yn dymhorol, sy'n cyflwyno rhai sialensiau amlwg.”

Mae'r weledigaeth ddiwyro hon wedi cynnal Halen Môn drwy bob tywydd. Ac yn wir, mae'r llwyddiant y mae'r cwmni wedi ei brofi yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn bell o'r rhwystrau a wynebodd yn ystod y blynyddoedd cynnar. I ddechrau, y rhwystr mwyaf oedd y prisio - yn arbennig argyhoeddi pobl bod halen môr Mon yn werth y pris premiwm. Ac yna, yn 2001, gan fod pethau'n dechrau datblygu, cafwyd argyfwng y traed a'r genau a diflannodd 80% o incwm y cwmni, bron dros nos.

Ar ôl goresgyn y sialensiau hyn a heriau eraill, mae David bellach yn tynnu ar ei brofiadau blaenorol i sicrhau bod y cyfnod presennol o lwyddiant yn parhau. Er enghraifft, mae'n ystyried y ffordd mae'n galluogi ei staff i fod yn rhan annatod o berfformiad y cwmni. Dywed David, "Fe wnaethom ddysgu'n eithaf cynnar, drwy roi rhyddid i’n gweithwyr ddangos beth gallan nhw ei wneud, a thrwy ddyrchafu pobl o fewn y cwmni, byddai hynny yn ei dro yn talu ar ei ganfed.”

Daeth gwers ysbrydoledig arall - ac un sy’n atgyfnerthu cred David bod arloesedd yn llywio perfformiad - ar ôl sgwrs fer gyda'r cogydd byd-enwog Heston Blumenthal. "Roedd e eisiau dŵr wedi’i fygu," eglurodd David. "Felly yn hytrach na dweud yn syth bod hynny’n syniad gwbl wallgo, fe wnaethon ni hynny ar ei ran, a dwy neu dair blynedd yn ddiweddarach, mae'n gwerthu'n dda iawn i gwmnïau fel Marks & Spencer a nifer o gynhyrchwyr bwyd. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn i ni.”

Gyda hynny mewn cof, mae David yn parhau i fuddsoddi mewn arloesedd hyd heddiw. "Darllenais unwaith y dylai ugain y cant o'ch cynnyrch fod yn llai na blwydd oed, ac rwy’n cytuno'n llwyr fod angen ffrwd o syniadau arnoch," meddai David. "Nawr bod ein brand yn fwy adnabyddus, rydym yn lansio cynnyrch newydd fel ketchup Bloody Mary. Rwy'n treulio mwy a mwy o amser yn ymchwilio i bethau, ac rwy'n teimlo'n gyffrous am y syniad nesaf."

O ran Creu Sbarc, dywed David fod ganddo rôl bwysig wrth ailosod disgwyliadau pobl. "Mae Creu Sbarc yn symudiad fydd yn dangos i bobl gyffredin y gallan nhw gyflawni pethau anhygoel. Pan ddaw at uchelgais, ni ddylai pobl boeni am fod yn rhy uchelgeisiol, dim ond am beidio â bod yn ddigon uchelgeisiol.”