Kathryn Penaluna – Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Y wraig banc a drodd at y byd academaidd sy’n helpu i gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru

Fel Rheolwr Mentergarwch Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae Kathryn Penaluna yn defnyddio ei gwybodaeth drylwyr o entrepreneuriaeth i helpu i gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr ac entrepreneuriaid llwyddiannus yng Nghymru - drwy ysbrydoli pobl ifanc yn uniongyrchol, a thrwy chwarae rôl allweddol wrth ddilysu entrepreneuriaeth a'i roi ar y map rhyngwladol fel pwnc academaidd.

Ysbrydolwyd Kathryn gan arloesedd yn wreiddiol yn ystod dyddiau cynharaf ei gyrfa fel rheolwr banc. Yn gyfrifol am gymeradwyo benthyciadau busnes, doedd ganddi ddim dewis ond gwrthod ceisiadau am syniadau gwreiddiol a aeth ymlaen i fod yn llwyddiannus iawn. Yn ddiweddarach, dechreuodd ddysgu busnes i fyfyrwyr dylunio ifanc - a helpodd ei gŵr gyda’i fusnes dylunio – ac roedd wrth ei bodd gyda’u syniadau a'u creadigrwydd.

Meddai Kathryn, "Roeddwn i'n dysgu drwy ddefnyddio fy mhrofiad o addysg busnes a bancio. Ond wrth wrando ar yr hyn oedd gan y myfyrwyr ifanc gwych i’w ddweud, sylweddolais fy mod wedi anwybyddu’n llwyr y cyfraniadau enfawr y mae arloesedd a chreadigrwydd yn eu gwneud. I ddechrau, roedd hi'n anodd symud fy ffordd o feddwl, ac i dderbyn nad oeddwn yr arbenigwr yr oeddwn i'n credu."

Cafodd ei phenodi i’w swydd bresennol yn 2005 ac, wedi’i hysbrydoli gan ei phrofiadau, astudiodd ar gyfer MA mewn Addysg Mentergarwch - gan ychwanegu hyn at y MBA a gafodd eisoes. Ers hynny, mae'r canlyniadau a'r hyn a gyflawnwyd yn adrodd cyfrolau. Ym mis Mehefin 2017, roedd y brifysgol yn y trydydd safle ar restr y Times Higher Education o gwmnïau cychwynnol sy’n weithgar ac yn dal i fasnachu ymhlith graddedigion – ac roedd hynny’n adlewyrchiad gwych o’r gwaith mae Kathryn wedi bod yn ei wneud wrth ddefnyddio syniadau newydd ac egin syniadau i gefnogi busnesau newydd. Ond gofynnwch iddi am ei phrofiad mwyaf cofiadwy a rhywbeth arall sydd ar frig y rhestr.

Eglurodd Kathryn, "Cawsom ein penodi gan lywodraeth Macedonia i ddatblygu ei addysg Arloesedd ac Entrepreneuriaeth; rhan newydd a gorfodol o gwricwlwm cenedlaethol ysgolion Macedonia. Fe wnaethom ni gais i Fanc y Byd am y prosiect ac ennill. Roedd yn brofiad anhygoel o'r dechrau i'r diwedd." Yn 2010, camp arall y mae Kathryn yn falch ohoni oedd sefydlu, gyda’i thîm, y rhaglen hyfforddi gyntaf i athrawon a ddilyswyd mewn prifysgolion y DU ar gyfer Addysgwyr Entrepreneuraidd, gan helpu i esgor ar gyfnod newydd ar gyfer astudio entrepreneuriaeth yn y DU ac Ewrop, lle cafodd gryn glod gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Wrth sôn am Creu Sbarc, mae Kathryn yn amlwg yn awyddus i wthio ymhellach. "Mae Creu Sbarc yn rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig, ac i wrando ar y byd a dod ag ef yn ôl i Gymru," meddai. "Mae'r rhan fwyaf o arweinyddiaeth meddwl yn esblygu o'r gwaelod i fyny, felly bydd arbenigwyr newydd yn dod i'r amlwg a bydd y rhaglen hon yn sbardun i  hynny."