Martin Baker - One Team Logic

Martin Baker, Rheolwr Gyfarwyddwr One Team Logic ac enillydd Gwobr Busnes Digidol Cychwynnol yng Ngwobrau Busnesau Cychwynnol Cymru, sy’n rhannu ei brofiadau gyda ni.

GADEWCH I NI DDECHRAU GYDAG YCHYDIG O GWESTIYNAU YNGLŶN Â DOD YN FUDDUGOL YN EICH CATEGORI YNG NGWOBRAU BUSNESAU CYCHWYNNOL CYMRU:

Sut gwnaeth eich siwrnai gyda Gwobrau Busnes Cychwynnol Cymru gychwyn? Soniwch am y prosesau ymgeisio a beirniadu

Clywsom am y gwobrau trwy ein Rheolwr Perthynas yn y Rhaglen Cyflymu Twf. Teimlai fod ein twf sylweddol mewn cyfnod cymharol fyr, yr adborth a gawsom gan y cwsmeriaid a'r ffordd roeddem wedi goresgyn rhai o'r rhwystrau sy’n anochel yn wynebu busnes newydd, yn werth eu cydnabod.

I wneud cais, roeddem yn gorfod cyflwyno cyflwyniad ysgrifenedig manwl - i ddechrau, dim ond un categori y gwnaethom roi cynnig arno, ond gan ein bod yn gymwys am ddau gategori, cawsom ein hannog gan y trefnwyr i gyflwyno ail gais, a oedd yn credu ein bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y ddau. Fe wnaethom weithio’n galed iawn i baratoi ein cyflwyniad, ond roedd yn broses ddefnyddiol iawn oherwydd fe wnaeth ein herio i adnabod y pethau roeddem ni wedi’u gwneud a oedd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Roedd y cam beirniadu yn eithaf dwys! Ar ôl cyrraedd y rhestr fer, cawsom ein holi’n dwll iawn gan banel o feirniaid arbenigol (panel gwahanol ar gyfer pob gwobr). Cadeirydd y panel oedd sylfaenydd y gwobrau, yr Athro Dylan Jones-Evans, Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol Prifysgol De Cymru, ynghyd â chynrychiolwyr o Fanc NatWest/Entrepreneurial Spark (prif noddwr y gwobrau) a Chanolfan Arloesi Menter Cymru. Roedd noddwr y categorïau gwobrau unigol hefyd ar bob panel (CircleIT ar gyfer Busnes Digidol Cychwynnol y Flwyddyn ac ES/Disrupt ar gyfer Gwasanaethau Cychwynnol y Flwyddyn).

Roedd y seremoni yn wych, ac yn wahanol i unrhyw beth roeddem wedi bod iddo o'r blaen. Roedd yn llawn brwdfrydedd, cyffro ac egni gan bawb a oedd yn bresennol.

Ydych chi’n teimlo bod ennill Gwobrau Busnesau Cychwynnol Cymru wedi helpu i dyfu eich busnes? Os felly, allwch chi ddweud sut?

Ydw yn sicr, roedd ennill yn y ddau gategori roeddem wedi rhoi cynnig arnynt yn werth chweil ac yn gyffrous iawn i’n tîm, a oedd yn cael ei fwydo’n ôl yn uniongyrchol i’n busnes.

Ers y gwobrau rydym wedi penodi rhagor o staff yn yr adrannau canlynol: Gwerthu a Marchnata, Gwasanaeth Cwsmeriaid a’r Tîm Datblygu Meddalwedd, sy’n ein galluogi i ymrwymo ymhellach i ddiogelu plant.

Mae nifer o fusnesau yng Nghymru wedi cysylltu â ni hefyd ac mae ein proffil wedi’i godi mewn Ysgolion yng Nghymru.

Mae 2018 yn argoeli i fod yn flwyddyn fawr i ni, mae gennym rai prosiectau gwych wedi'u trefnu a llawer i'w wneud i barhau i dyfu, lledaenu ein neges a galluogi bod rôl y rhai sy'n gyfrifol am ddiogelu plant yn haws, yn fwy effeithlon ac yn fwy diogel nag erioed o'r blaen.

Beth fyddai eich cyngor gorau wrth ysgrifennu cais am wobr?

Credwch yn eich cynnyrch, eich busnes a’ch tîm.

Os ydych chi'n byw a bod yn eich diwydiant (fel rydym ni gyda diogelu plant a'u lles), dylai hyn ddod yn hawdd i chi. Dim ond i chi beidio â gorlwytho'r cais. Cadwch y manylion yn gryno, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn am y pwyntiau allweddol - i ni, mae profiad ein Cyfarwyddwyr fel uwch swyddogion heddlu blaenorol ac arbenigedd yr ymgynghorwyr diogelu rydym yn eu cyflogi (o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys gofal cymdeithasol, gofal iechyd, addysg ac asiantaethau eraill) o bwysigrwydd mawr i ni a'n cwsmeriaid.

Mae bob amser yn wych defnyddio astudiaethau achos o fywyd go iawn ac adborth gan gwsmeriaid sydd wedi elwa o'ch cynnyrch/gwasanaethau. Rydym yn ddigon ffodus o gael dewis enfawr o ysgolion sy'n hapus i ddweud wrth unrhyw un a fydd yn gwrando ynghylch sut mae MyConcern wedi trawsnewid y ffordd y maent yn rheoli trefniadau diogelu yn eu hysgolion.

NAWR, HOFFEM GLYWED DIPYN BACH MWY AMDANOCH CHI A’CH BUSNES:

Beth wnaeth eich ysgogi i ddechrau eich busnes?

Drwy gydol ein gyrfaoedd mewn plismona, roedd Mike a minnau'n ymwneud ag ystod eang o achosion diogelu plant ac oedolion ac achosion amddiffyn plant. Rydym hefyd yn llywodraethwyr ysgol ac felly roeddem â diddordeb naturiol yn y ffordd roedd ysgolion yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Yn ystod y cyfnod hwn y daethom i ddarganfod y swm pryderus o wybodaeth sensitif a gofnodwyd ar bapur, a gadwyd mewn rhwymyddion modrwyog a’u cloi mewn cabinetau ffeilio. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i rannu'r wybodaeth yn ddiogel (e.e. gyda gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill) ac yn anodd iawn i'w dadansoddi.

Roedd diffygion o ran olrhain gwybodaeth, a gwybodaeth a gofnodwyd yn gywir (a fyddai'n dderbyniol mewn llys) yn eithaf brawychus i ddweud y gwir. Wedi i ni nodi'r angen am ddull electronig diogel a chadarn ar gyfer cofnodi a rhoi gwybod am bryderon, fe wnaethom ymuno â Darryl Morton, perchennog Logic Software (chwaer-gwmni One Team Logic) ac o'r cydweithrediad hwnnw, ganwyd MyConcern.

Mae ein busnes wedi'i adeiladu o gwmpas gweithwyr diogelu proffesiynol, gydag amddiffyn plant a phobl ifanc yn rhan gwbl greiddiol ohonom – mae wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym wedi datblygu ein hateb gyda hynny mewn golwg - i wir ddiwallu anghenion athrawon a'r rhai sy'n gyfrifol am ddiogelu a lles mewn ysgolion. Rydym yn sefyll allan oherwydd ein pobl ac ansawdd ein gwasanaeth.

Beth yw eich llwyddiant mwyaf hyd yn hyn?

Gwybod bod MyConcern - y feddalwedd rydym wedi’i datblygu - wedi helpu i drawsnewid y gwaith o amddiffyn plant, ac y bydd yn parhau i helpu i gadw plant yn ddiogel ar draws y DU a thros y byd.

Gweld y gwahaniaeth y mae’n ei wneud mewn ysgolion - yn enwedig i’r rhai hynny sy’n gyfrifol am ddiogelu plant yn eu gofal – sy’n rhoi’r boddhad mwyaf yn y swydd hon.

Mae eu swyddi mor hanfodol bwysig, ac mae MyConcern yn sicrhau eu bod yn gwneud hyn yn effeithlon, yn ddiogel ac yn y ffordd orau bosibl.

Soniwch am eich profiad entrepreneuraidd cyntaf

Mewn termau masnachol, dyma fe! Fodd bynnag, mewn plismona, roeddem yn wynebu heriau newydd yn aml, gyda dyfodiad y caledi ariannol yn enghraifft dda iawn! Roedd yn rhaid i ni gymryd £10 miliwn allan o'n ‘busnes’ £120 miliwn mewn blwyddyn yn unig, wrth barhau i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac i ddiwallu ystod eang o fygythiadau a oedd yn dod i'r amlwg, gan gynnwys llawer o'r materion sydd bellach yn wynebu ysgolion. Roedd hyn yn gofyn i ni fabwysiadu dull eithriadol o entrepreneuraidd - chwilio am ffyrdd newydd o wneud popeth, yn llythrennol, gan geisio parhau i fod yn optimistaidd, ceisio annog ein staff o 3000, cynnal hyder y cyhoedd ac aros o fewn y gyllideb! Yn amlwg, roedd hyn yn heriol iawn a gyda rhai risgiau sylweddol, ond trwy weithio fel 'un tîm', fe wnaethom gyflawni ein hamcanion.

Beth ydych chi’n credu fydd y sialens fwyaf i’ch busnes dros y blynyddoedd nesaf?

Mae yna nifer o faterion diogelu a lles newydd sy'n dod i’r golwg. Mae dyfodiad y rhyngrwyd nawr yn golygu bod llawer mwy o beryglon yn wynebu pobl ifanc. O seiber-fwlio i fagu perthynas amhriodol ar-lein, pryder wedi’i atgyfnerthu gan y cyfryngau cymdeithasol, secstio a hyd yn oed radicaleiddio ar-lein, mae pobl ifanc heddiw yn agored i lawer mwy o broblemau na'r cenedlaethau a oedd yn eu rhagflaenu. Mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu hadnabod a bod gofalwyr yn gwbl ymwybodol o sut i ddelio â'r problemau eang a chymhleth hyn.

Ymhellach at hynny, mae cynnydd ledled y DU yn nifer yr achosion o gam-drin rhywiol a riportiwyd, ac un ffactor sydd wedi cyfrannu’n anochel at hyn yw’r ymwybyddiaeth o achosion cam-drin rhywiol hanesyddol a phroffil uchel fel Jimmy Saville a'r Ymchwiliad Annibynnol cenedlaethol parhaus i Gam-drin Plant yn Rhywiol(link is external).

Mae'r holl ddatblygiadau hyn yn rhoi straen sylweddol ac uniongyrchol ar wasanaethau rheng flaen fel ysgolion a cholegau, sydd bellach yn delio â phroblemau o'r fath yn ddyddiol. Mae arnynt angen y math o gefnogaeth yr ydym ni’n ei rhoi i sicrhau y gallant ymdopi ac ymateb yn briodol i'r anghenion ychwanegol hyn.

Sut ydych chi’n trechu’r amheuon hynny sy’n aml yn rhwystro entrepreneuriaid gyda syniadau gwych...beth sy’n eich cadw chi i fynd?

Y darn gorau o gyngor a gefais oedd y dylech ddim ond gwneud rhywbeth rydych chi wir yn credu ynddo. Nid oes unrhyw beth yn bwysicach na diogelu ein plant a'n pobl ifanc a'u galluogi i ffynnu. Y nhw yw’r genhedlaeth nesaf - mae angen i ni sicrhau eu lles. Rydym yn hyrwyddo'r neges hon bob dydd ym mhopeth a wnawn.

Mae gwybod bod MyConcern yn newid bywydau ac yn atal niwed i blant yn sicr yn ysgogi rhywun!

AC I ORFFEN:

Pe gallech deithio nôl mewn amser i ddiwrnod cyntaf eich busnes, a threulio 15 munud yn siarad gyda’ch hun am wersi rydych wedi’u dysgu, gyda’r bwriad o atal camgymeriadau a phoendod i chi ar y daith, beth fyddech chi’n ei ddweud wrth eich hun?

Paid â bod yn betrus – penderfyna ar dy flaenoriaethau a chymera gamau gweithredu mawr!

I ddarganfod mwy am MyConcern