Gemma Hallett yn rhannu ei stori - MiFuture

Defnyddio technoleg i alluogi cenhedlaeth i sicrhau cyflogadwyedd a ffyniant

Proffil gyrfaol digidol ar-lein yw MiFuture ac mae’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc sy’n barod i wneud penderfyniadau ynghylch eu gyrfa. Gyda’r tâl diswyddo a gefais am adael fy ngwaith fel athro, fe wnes i ariannu’r datblygiad technolegol yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus. Nawr, rydw i’n chwilio am gyllid a chymorth i gyflwyno’r ap hwn ar lefel genedlaethol gyda’r bwriad clir o ‘alluogi cenhedlaeth Z i gael cyflogaeth ac i ffynnu’. Fy ngweledigaeth yw denu ac ailgysylltu ieuenctid di-waith a phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), yn ogystal â darparu proffil gyrfaol digidol ataliol i’r rheini sydd ar fin gadael hyfforddiant ac addysg amser llawn.

Rydyn ni wedi cwblhau cyfnod prawf llwyddiannus yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng nghymoedd De Cymru sydd dan anfantais ac wedi’u datgysylltu. Rydym wedi darparu ein proffil gyrfaol digidol MiFuture mewn/gydag Ysgolion, Elusennau, Prosiectau ymyrryd ar gyfer pobl ddigartref a’r rheini sy’n gadael gofal, Cymunedau yn Gyntaf, School of Hard Knocks, Prosiectau Cyflogadwyedd GoConnect, Ymddiriedaeth y Fonesig Kelly Holmes, a’r Ganolfan Byd Gwaith. Rydyn ni wedi ymgysylltu â dros 200 o bobl ifanc sydd wedi cael Proffil Gyrfaol Digidol y mae modd cael mynediad ato ar-lein drwy’r ap MiFuture. Mae eu proffil personol yn darparu ffrwd fyw o swyddi cyflogedig, cyfleoedd dysgu, hyfforddiant a gwaith gwirfoddol perthnasol, a 3 swydd y gallan nhw wneud cais amdanynt drwy ‘sweipio’. Mae’r dechnoleg yn cael ei datblygu ymhellach er mwyn bod yn barod i’w chyflwyno’n Genedlaethol ac i gael mwy o effaith.

Mae ein gweithdai MiFuture (elfen menter gymdeithasol y brand) wedi darparu cymorth a mynediad i broffil MiFuture i dros 200 o bobl ifanc; ac mae 32 o’r rheini wedi gwneud cais am swyddi â chyflog, cyfleoedd dysgu, hyfforddi a/neu wirfoddoli. Roedd y bobl ifanc y gwnaethon ni ymgysylltu â nhw yn byw mewn tlodi ac yn wynebu alltudio addysgol a chymdeithasol, a nhw oedd y rhai pellaf oddi wrth y farchnad lafur.

Treuliais 8 mlynedd fel athro’n dysgu pobl ifanc rhwng 15 a 18 oed a dim ond am awr bob pythefnos oeddwn i’n cael rhoi arweiniad i ddosbarthiadau o dros 20 o ddisgyblion a oedd ar fin gadael yr ysgol, a’u paratoi ar gyfer bywyd ar ôl yr ysgol. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ansicr o’u hopsiynau, wedi’u drysu gan y system neu wedi’u dallu gan y cyfyngiadau neu eu hopsiynau. Byddan nhw’n eistedd yno wedi’u llorio gan iaith academaidd addysg uwch, wedi’u datgysylltu mewn byd o CVs a meini prawf, neu’n anghyfarwydd â dulliau traddodiadol a cheisiadau ysgrifenedig. Roedden nhw’n gwybod beth roedden nhw’n ei fwynhau, sef eu bod yn cysylltu â phopeth arall yn y byd digidol, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn roeddwn i’n gwylio cymaint ohonyn nhw’n mynd i gors neu’n mynd i lawr y llwybr anghywir, dim ond i ddifaru ac ymgilio i fyd diysbrydoliaeth.

Treuliais rywfaint o amser yn teithio ac fe gwrddais ag amrywiaeth helaeth o bobl ddifyr ac ysbrydoledig. Un noson, fe soniais am fy rhwystredigaethau personol, a rhai fy nysgwyr, ynglŷn â’r holl broses ddigyswllt roedden nhw’n mynd drwyddi, a’u diffyg ffydd y gallan nhw ystyried cyfleoedd neu hyd yn oed gael uchelgais yn y byd o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Roedd y teithwyr eraill yn cytuno ac yn gallu uniaethu gan eu bod wedi bod drwy’r broses eu hunain yn ddiweddar. Roeddwn wedi ymgolli wrth ddweud fy stori angerddol a chefais epiffani! Dywedais: “Mae angen Facebook ar gyfer gyrfaoedd” – lle gall unigolion gael cysylltiad personol â’u hopsiynau, mewn amgylchedd maen nhw eisoes yn byw ynddo; a lle caiff cyfleoedd eu bwydo iddyn nhw’n uniongyrchol. Rwy’n cofio’r teimlad o gyffro mawr yn fy stumog, wrth i bawb o’m cwmpas ddatgan ei fod yn syniad penigamp.

Pan es yn ôl i ddysgu fe wnes i fanteisio ar bob cyfle i gael adborth gan y rheini roeddwn i’n eu dysgu ac roeddwn yn gwerthfawrogi barn athrawon eraill. Roeddwn yn aml yn sôn am y syniad â’r dysgwyr ac yn gofyn am eu barn ar y syniad MiFuture. Tua blwyddyn yn ddiweddarach roedd y fersiwn cyntaf o’r wefan yn barod i’w phrofi. Roedd gen i fynediad at y gynulleidfa berffaith ac roedd yr adborth yn anhygoel. Roedd y disgyblion wedi dod o hyd i ffordd o archwilio opsiynau roedden nhw’n angerddol drostynt, lle roedden nhw’n gallu ymgysylltu mewn ffordd oedd yn ail natur iddyn nhw, a magu’r hyder i gymryd y cam nesaf. Dyna pam y dechreuais i weithio ym maes addysg – i ysbrydoli dyfodol pobl ifanc heddiw, a dyna pam mae fy ngweledigaeth ar gyfer MiFuture yn bodoli heddiw.

I danysgrifio i restr bostio MiFuture neu gallwch chi ddilyn MiFuture ar Twitter @miF_Education