Astudiaeth Achos - Y Byd Academaidd - Athro Rick Delbridge

Mae gan bob sefydliad gyfraniad i’w wneud fel rhan o uchelgais Cymru i arloesi, meddai’r Athro Rick Delbridge.

Ac fe ddylai wybod, gan iddo dreulio’i yrfa academaidd yn astudio arloesedd – ac mae’n geffyl blaen y byd ei hun, reit yma yng Nghymru.

Mae’r Athro Delbridge, Deon Ymchwil, Arloesi a Menter Prifysgol Caerdydd, yn credu bod angen i bawb ddod at ei gilydd i weithio’n fwy effeithiol a chreadigol. Un o’r cyfleoedd cyffrous a grëwyd trwy REAP yw ei fod yn cydnabod entrepreneuriaeth fel system sydd â chyfranwyr niferus,” meddai. “Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n datblygu ein gallu fel actor allweddol er mwyn cyfrannu’n well at yr agenda arloesedd a mentergarwch - ac mae gan bawb ran i’w chwarae.”

Dyma’r ethos sy’n sail i ddatblygu Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK), y cyfleuster cyntaf o’i fath yn y byd sy’n dod ag arbenigwyr academaidd trawsddisgyblaeth a sefydliadau allanol dan yr un to. Disgwylir i’r cyfleuster hwn gael ei adeiladu o fewn y ddwy flynedd nesaf fel rhan o Gampws Arloesedd Caerdydd gwerth £300 miliwn, adeilad pwrpasol a fydd yn meithrin atebion arloesol a chreadigol i broblemau byd go iawn trwy gydweithrediad y sectorau academaidd, busnes, llywodraeth a’r trydydd sector.

Mae SPARK yn fenter newydd sydd eisoes yn denu sylw a diddordeb rhyngwladol,” meddai Rick, arweinydd academaidd y brifysgol SPARK. “Mae’n golygu meithrin ymddiriedaeth, dysgu ar y cyd a chydweithio er mwyn datrys problemau a arferai fod yn dipyn o gur pen inni.

Cyflawni canlyniadau fydd nod cyfleuster SPARK, sy’n hanfodol i arloesi o’r iawn ryw. “Nid dim ond gwneud rhywbeth newydd yw arloesi,” meddai. “Mae’n golygu creu gwerth o syniad neu ddyfais newydd. Efallai mai rhywbeth o werth economaidd yw hyn, ond gall fod o werth cymdeithasol, diwylliannol neu gyhoeddus neu’n gysylltiedig ag iechyd a lles. Dyna pam mae gwir angen i ni ganolbwyntio ar gyflawni, ac nid arloesi er mwyn arloesi yn unig.”

Er mwyn sbarduno arloesedd yng Nghymru, rhaid i sefydliadau greu ysgogiad oddi mewn ac nid disgwyl i fusnesau newydd wneud y cyfan.

Mae newid radical yn brin oni bai bod rhyw argyfwng yn ei wthio,” ychwanegodd Rick. “Ond dyna’n union sydd ei angen ar Gymru er mwyn camu ymlaen i gyflawni pethau gwych. Er mwyn i ni lywio llwyddiant, rhaid i sefydliadau sydd yma’n barod barhau i esblygu a thorri tir newydd fel rhan o agenda entrepreneuriaeth sefydliadol, sy’n herio’r un hen drefn.

Rhaid i arloesedd fod wrth wraidd yr holl sefydliad, ac yn gyfrifoldeb i bawb”, ychwanega Rick. “Mae angen i unigolion arwain newidiadau oddi mewn a chydnabod waeth pa mor fach yw eu cyfraniad, eu bod nhw’n rhan o olwyn fawr a allai wneud gwahaniaeth o ran hyrwyddo a datblygu arloesedd o fewn eu sefydliad eu hunain.