Astudiaeth Achos - Corfforaethol - Tony Nicol

Arloesi piau hi os ydych chi am lwyddo yn y diwydiant modurol, fel y gŵyr Tony Nicol yn well na neb.

Mae’r dyn busnes o Ganada wedi bod ynghlwm wrth weithgynhyrchu a dosbarthu offer a chyfarpar modurol dros y rhan fwyaf o’i yrfa - gyrfa sydd wedi’i arwain i bedwar ban byd, a blynyddoedd o fyw mewn gwahanol rannau o Ewrop a Gogledd America, o Ontario i Sweden a’r Eidal.

Ac eto, Cymru yw ei gartref erbyn hyn. Mae wedi mopio ar y ffordd Gymreig o fyw ers symud i Gwmbrân fel rheolwr gyfarwyddwr Meritor Heavy Vehicle Braking Systems.

Mae ymdeimlad cryf o falchder Cymreig yma sy’n seiliedig ar ymdeimlad cryf o waith – agwedd gadarnhaol lle mae popeth yn bosib,” meddai Tony. “Dw i’n credu’n gryf bod yna ymdeimlad o lwyddo ar y cyd yma yng Nghymru.

Does dim syndod bod Tony wedi sylwi ar ymdeimlad cryf o gymuned yng Nghymru, yn enwedig wrth weithio i Meritor. Mae pencadlys y cwmni yng Nghwmbrân wedi’i leoli mewn ffatri a arferai gynhyrchu cydrannau ar gyfer bomiau’r Ail Ryfel Byd, felly mewn ffordd, mae diwylliant cryf o arloesi yn yr ardal erioed.

Mae’r dref ei hun wedi tyfu o amgylch y safle, a agorodd yn wreiddiol ym 1937 ac a brynwyd gan Meritor ym 1999. Mae sawl cenhedlaeth o’r un teulu wedi parhau i weithio yn y ffatri, oll wedi’u huno gan gyflogaeth ar y cyd a threftadaeth ddiwydiannol eu milltir sgwâr.

Mae 90% o’n gweithwyr yn byw o fewn 10 milltir i’r safle,” esboniodd Tony. “Ac mewn sawl achos, arferai eu tad a’u tad-cu weithio yma hefyd – rydyn ni wedi’n hangori yn yr ardal, felly does gennym ni braidd dim trosiant staff. Mae hynny’n sicrhau cryn fantais gystadleuol i ni.

Mae Tony yn cydnabod effaith ei gwmni ar gymuned Cwmbrân: gyda 500 o weithwyr Meritor yn gwario’u harian mewn busnesau lleol bob dydd, mae’r dref yn cael hwb economaidd uniongyrchol trwy fod o fewn tafliad carreg i’r ffatri.

Ar ben hynny, mae Meritor yn buddsoddi ei arian ei hun ar hyfforddi myfyrwyr o golegau a phrifysgolion y De, yn darparu cyfleoedd newydd i weithwyr ifanc ac yn addysgu gwerth hanfodol arloesedd ym myd busnes a’r gymdeithas.

Fel gwlad fach gyda llywodraeth ddatganoledig, mae Tony yn credu bod gan entrepreneuriaid Cymreig gyfle unigryw i dorri tir newydd, rhoi hwb i’w hardaloedd lleol a chyfrannu at economi’r genedl. “Gall busnesau bach a mawr gael effaith aruthrol ar lefel GDP Cymru,” awgryma. “Mae hyd yn oed prosiectau gweddol fach yn gallu gwneud byd o wahaniaeth yn ein gwlad.

Gall perchnogion busnes fanteisio ar y ffaith mai gwlad fach yw Cymru – dim ond galwad ffôn neu ddwy i ffwrdd ydych chi o bobl sydd yn y sefyllfa gywir i wneud i bethau ddigwydd.

Os ydych chi’n fentrus eich natur ac yn cymhwyso hynny i’ch busnes, yna does dim pall ar beth allwch chi ei gyflawni yma yng Nghymru.