Astudiaeth Achos - Llywodraeth - Natasha Hale

Mae gan y sector cyhoeddus y cyfle i wneud Cymru yn wlad heb ei hail, ond dim ond os ydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb i sbarduno newid yn fewnol.

Dyna farn bendant Natasha Hale sydd wedi brwydro’n galed i wneud i’r sector cyhoeddus weithio’n galetach dros y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Yn ôl yn y nawdegau bu Natasha yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth, a dyna pryd y sylweddolodd nad oedd Cymru yn gwireddu ei llawn botensial. Digwyddodd gyfarfod â’r gwleidydd Peter Hain ac egluro’i barn iddo ac arweiniodd hyn at yrfa 30 mlynedd yn sbarduno arloesi ar hyd a lled y sector cyhoeddus.

Roedden ni’n dathlu cerddoriaeth Cymru ond doedden ni ddim yn cadw’r hawlfraint a oedd yn golygu ein bod ni ar ein colled yn ariannol”, eglurodd. “Doedd creadigrwydd ddim yn cael ei gydnabod fel ffordd o sbarduno busnes

Gan weld y cyfle i feddwl yn arloesol, arweiniodd cynnig Natasha at sefydlu Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig cyntaf Llywodraeth Cymru, gan fynnu parch at werth economaidd cerddoriaeth a chefnogi cadw hawlfraint ac eiddo deallusol. Aeth ymlaen i gyd-ysgrifennu strategaeth greadigol gyntaf Cymru ac yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn Bennaeth y Diwydiannau Creadigol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Sectorau a Busnes Llywodraeth Cymru. Yn y swyddi hyn, helpodd i ddenu gwerth £100 miliwn o wariant newydd i Gymru drwy fynd i’r afael â’r hyn a ystyriai yn rhwystrau i gyflawni ac arloesi. Mewn un enghraifft, helpodd weithwyr llawrydd i gael eu cydnabod fel ased yn y diwydiannau creadigol a denodd gwmnïau teledu o Hollywood a Llundain i ffilmio yng Nghymru gyda grantiau a sicrhaodd o leiaf £12 o adenillion i BBaChau yng Nghymru am bob £1 a fuddsoddwyd.

Mae strategaethau yn bethau gwych, ond mae angen eu rhoi ar waith i sicrhau llwyddiant,” meddai Natasha. “Dyw prosesau cyffredin y sector cyhoeddus ddim wedi’u llunio bob amser i gyflawni anghenion gwirioneddol busnesau newydd ac arloesol. Dydych chi byth yn mynd i sicrhau arloesedd os nad ydych chi’n canolbwyntio ar y system ac yn newid pethau o’r gwaelod i fyny.

Mae hon yn her y mae pawb yn y sector cyhoeddus yn gyfrifol amdani yn ôl Natasha. “Mae’n rhaid i bobl arwain y ffordd os yw pethau’n mynd i newid,” meddai. “Mae 'na elfen o arloesi ym mhawb ac mae’r elfen honno’n cael ei sbarduno gan y ffaith ein bod ni i gyd yn wahanol. Y peth cyntaf sydd angen i ni ei wneud yw croesawu gwahaniaethau ac amrywiaeth. Gwahanol brofiadau pobl o fewn y sector cyhoeddus fydd yn dangos i ni sut i fynd ati i gyflawni’n well, ar gyfer y bobl ar y tu allan. Os ydych chi’n aros yn eich unfan ac ond yn gwrando ar yr un bobl neu bobl sy’n union fel chi, fyddwch chi byth yn dod ar draws rhywbeth newydd. Mae gennym ni systemau a phrosesau newid sy’n hwyluso mwy o amrywiaeth yn y llywodraeth a fydd yn arwain at fwy o arloesi a meddwl yn arloesol. Ac mae angen i arweinwyr greu gofod a gwrando ar syniadau gan bawb. Pan fyddwch chi’n sylweddoli bod arloesi’n rhywbeth sy’n digwydd ym mhobman, gallwch ddechrau gwrando ar syniadau a phrofiadau pobl a bydd hyn yn dod ag arloesedd i’r sefydliad ehangach.”

A beth sy’n gwneud sefydliadau sector cyhoeddus Cymru yn wahanol? Yn ôl Natasha, y potensial sy’n aros i gael ei wireddu.

Ychwanegodd, “Mae Cymru yn wad fach a chlyfar a dylai fod yn haws i ni ddod at ein gilydd a gwneud pethau cyffrous, arloesol. Mae’n rhaid i ni roi cynnig ar bethau newydd, mentro gyda syniadau newydd a pheidio â bod ofn methu. Byddwn ni’n methu o bryd i’w gilydd. Ond os byddwn ni i gyd mor arloesol ag y gallwn fod, gallwn newid Cymru er gwell mewn ffordd sylfaenol ac uchelgeisiol.”