Astudiaeth Achos - Entrepreneur - Nigel Saunders

Dyma stori am entrepreneur sy’n byw yng Nghymru ac sy’n troi syniad yn llwyddiant byd eang.

Fel Swyddog Prif Weithredol y Sure Chill Company, mae Nigel Saunders wedi bod yn allweddol i lwyddiant syfrdanol y cwmni, ac yn y gwaith o ddatblygu’r dechnoleg sydd wedi tanio’r fenter – sef system oeri arloesol sy’n galluogi oergelloedd i aros yn oer am wythnosau ar y tro heb drydan. Mewn llai na degawd, mae Sure Chill wedi trawsnewid o fod yn syniad gan ddyfeisiwr, i gwmni sy’n cynhyrchu oergelloedd brechlynnau i’w defnyddio ar hyd a lled 42 o wledydd – a chydnabyddir bod y cwmni wedi bod yn gyfrifol am arbed degau o filoedd o fywydau plant, yn enwedig yn Affrica Is-Sahara.

Wedi dweud hynny, oni bai am ysbryd entrepreneuriaid diflino Nigel - a’i ddawn o wneud i bethau ddigwydd - ni fyddai’r cwmni yn y sefyllfa y mae heddiw. Yn wir, yr ysbryd hwn a ysgogodd Nigel i adael swydd uchel yn Undeb Rygbi Cymru yn 2011 i arwain y gwaith o fasnacheiddio Sure Chill. Fel pob gwir entrepreneur, roedd ganddo weledigaeth glir o lwyddiant - ac roedd yn benderfynol o fynd amdani, waeth beth oedd y risg.

Wrth edrych yn ôl, dywed Nigel fod mwy nag un wedi synnu pan ymunodd â Sure Chill yn 2011. “Ar y pryd, roedd pobl yn meddwl fy mod i o'm cof i adael fy swydd i ymuno â chwmni newydd yn y maes technoleg,” meddai. “Ond mae’n rhaid i chi gredu i’r carn yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, anwybyddu unrhyw ymateb negyddol a dal ati.” A dal ati a wnaeth, er gwaethaf ambell gyfnod heriol iawn yn y dyddiau cynnar. “Roedd gan gymaint o bobl amheuon ynglŷn â’r fenter,” ychwanegodd. “Dywedodd pobl na fyddai’n bosib - a phe bai’n bosib, pam nad oedd rhywun arall eisoes yn ei wneud?”

Mae’r blynyddoedd hynny’n hen hanes erbyn hyn o ystyried llwyddiant y cwmni erbyn heddiw, ac mae Nigel yn gwybod yn iawn fod angen arloesedd parhaus er mwyn cael llwyddiant parhaus. A thra bod Sure Chill eisoes wedi gwneud camau breision yn y sector iechyd, mae Saunders yn ysgogi twf mewn meysydd eraill erbyn hyn.

Mae’n rhaid i chi ddal ati i edrych ar y darlun mwy bob amser,” meddai. “Mae yna sectorau eraill yn wynebu problemau tebyg y gall technoleg graidd Sure Chill ei datrys. Yr her unigol fwyaf yw cael pobl i ddeall gwir faint yr hyn y gallwn ei wneud: sef cyrraedd biliynau o bobl.”

Mae Sure Chill felly yn y camau profi gyda brand diodydd mwyaf y byd; mewn trafodaethau ag un o’r prif gwmnïau awyrennau, ac yn cydweithio ag Awdurdod Trydan a Dŵr Dubai er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ei grid.

“Mae’n rhaid i rai o’r entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus drio a thrio eto ar bethau tan y maen nhw’n dod o hyd i’r ateb sy’n gweithio. Mae angen i ni gael mwy o bobl i ddyfalbarhau a rhoi cynnig ar bethau, gan ein galluogi i feithrin entrepreneuriaeth yng Nghymru.”